Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 9 Mawrth 2022.
Unwaith eto, diolch am eich cwestiwn. Mae sawl elfen yn eich cwestiwn, a cheisiaf roi sylw iddynt yn fyr, ond yn amlwg, rwy'n awyddus i gael trafodaeth bellach gyda'r Aelodau, os oes ganddynt ddiddordeb, ar elfennau penodol ohono. Felly, rydym wedi gwneud llawer o waith dadansoddi ar draws Llywodraeth Cymru i ddeall beth y gallai'r effeithiau fod, o ran sancsiynau, ond hefyd y sefyllfa ehangach mewn perthynas â'r argyfwng. Felly, rydym wedi edrych ar farchnadoedd ynni a chwyddiant cyffredinol. Mae’r effeithiau yng Nghymru, o ran ein defnydd o nwy ac olew o Rwsia, yn llai nag mewn rhannau eraill o Ewrop: mae llai na 5 y cant o’n nwy, er enghraifft, yn dod o Rwsia, gyda’r gweddill yn dod o fôr y Gogledd a Norwy, yn ogystal â nwy naturiol hylifedig o wledydd fel Qatar a'r Unol Daleithiau. Ond wrth gwrs, mae prisiau ynni yn cael eu gosod ar sail fyd-eang, felly mae'n anochel y byddwn yn teimlo effaith rhywfaint o hynny, ac rydym wedi gwneud gwaith ychwanegol i edrych ar beth fyddai'r effaith ar yr economi pe bai pris casgen o olew yn codi'n uwch na $100. Rydym wedi edrych ar wahanol senarios, a'r effaith bosibl, a'r dewisiadau posibl wedyn gan Fanc Lloegr o ran cyfraddau llog ac ati.
Rydym hefyd wedi edrych yn benodol ar fwyd. Atebodd y Prif Weinidog gwestiynau ddoe ynghylch prisiau a'r hyn y bydd hynny’n ei olygu i’r gallu i gynnal prisiau yma yng Nghymru. Credaf ein bod yn debygol o weld prisiau’n codi o ganlyniad i’r sefyllfa. Gwrtaith: unwaith eto, soniodd y Prif Weinidog am hynny ddoe. Rydym hefyd wedi gwneud ymchwil ar fetelau a diemwntau. Ceir rhai materion sy’n benodol i Gymru yma, er enghraifft yn y diwydiant modurol. Mae Fforwm Modurol Cymru wedi siarad ag aelodau sy'n cyflenwi cydrannau i gyfleusterau gweithgynhyrchu ceir Rwsiaidd, ac felly rydym yn aros i ddeall yr effeithiau posibl ar werthiant ac effeithiau pellach posibl y tu hwnt i hynny. Ac yn amlwg, y diwydiant awyrofod—daw oddeutu hanner titaniwm y byd ar gyfer awyrofod o Rwsia, ac mae awyrofod a'r diwydiant modurol yn ddiwydiannau pwysig iawn i ni yma yng Nghymru. Felly, rydym wedi gwneud gwaith dadansoddi mewn perthynas â hynny hefyd. Felly, mae gennym yr effeithiau mawr posibl hyn ar yr economi, ond hefyd effeithiau ar aelwydydd unigol. Ac nid wyf am ailadrodd y pecyn cymorth a roddwyd ar waith gennym, ond bydd yr Aelodau'n gyfarwydd bellach â'r pecyn sy'n ymwneud â phrisiau tanwydd a'r taliad o £150 ac yn y blaen.