Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 9 Mawrth 2022.
Weinidog, cefais y fraint fawr o fod yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid pan oedd yn ystyried y cynllun buddsoddi i arbed yn ôl yn 2013, ac roedd yr Aelodau i gyd yn cydnabod rhinweddau'r cynllun ar gyfer helpu i sicrhau gwell gwerth am arian i'n gwasanaethau cyhoeddus.
Nawr, wrth inni edrych ymlaen, mae'n gwbl hanfodol fod prosiectau sy'n cael cyllid buddsoddi i arbed yn sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn hirdymor, ac felly, Weinidog, gan adeiladu ar y cwestiwn a ofynnwyd gan yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe, a wnewch chi ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i brofi effeithiolrwydd prosiectau a gwblhawyd ac i asesu effeithiolrwydd y cynllun buddsoddi i arbed yn ehangach, i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu ar gyfer y dyfodol?