Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 9 Mawrth 2022.
Rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaeth yr Aelod dros Ogwr a'r Gweinidog ar hynny. Os ydym am oresgyn yr argyfwng costau byw, mae angen i'r Llywodraeth gydweithio ar bob lefel. Ac mae'n rhaid inni gofio mai Putin a ddechreuodd yr argyfwng wrth iddo geisio bygwth cyflenwadau nwy ac olew i Ewrop drwy gau'r tapiau. Mae'r ffaith y gallai'r byd i gyd gael ei ddal yn wystl gan biliwnyddion o unbeniaid yn frawychus ac yn ofidus. Bydd effaith y rhyfel yn Wcráin yn gorfodi prisiau ynni a phrisiau bwyd i godi ymhellach fyth. Mae'r rhagolygon yn dynodi y bydd aelwydydd yn y DU yn gweld y gostyngiad mwyaf mewn incwm ers hanner canrif. Weinidog, er bod y ffocws yn gwbl briodol ar helpu dioddefwyr uniongyrchol rhyfel Putin, pobl Wcráin, pa drafodaethau a gawsoch gyda Thrysorlys y DU ynghylch ffyrdd o liniaru'r effaith y bydd y gwrthdaro'n ei chael ar deuluoedd Cymru?