Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 9 Mawrth 2022.
Yn fy ymateb i Huw Irranca-Davies, nodais rai o'r ffyrdd y buom yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio'r dulliau sydd ar gael iddi i helpu teuluoedd a chartrefi yma yng Nghymru. Ond mae gan Lywodraeth y DU gyfle gwirioneddol yn awr ar 23 Mawrth, pan fydd yn cyflwyno ei datganiad cyllidol nesaf, ac mae hwnnw'n gyfle yn fy marn i i Lywodraeth y DU nodi ymyriadau cryf iawn i gefnogi pobl drwy'r argyfwng hwn. Er enghraifft, gallent gynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant. Credaf y byddai hynny'n ddechrau. A gallai ailystyried rhai o'r dewisiadau treth y mae'n eu gwneud ar gyfer y dyfodol agos, oherwydd unwaith eto, yn amlwg, nid oedd y dewis a wnaeth mewn perthynas â chyfraniadau yswiriant gwladol yn un y byddem ni wedi'i ddewis, er enghraifft. Felly, mae yna ddewisiadau y gall Llywodraeth y DU eu gwneud a gallant barhau i archwilio gwahanol ffyrdd o gefnogi pobl.