Cyfraddau Treth Cyngor

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:01, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, yfory bydd cyngor Rhondda Cynon Taf yn pleidleisio ar eu cyllideb ar gyfer 2022-23. Diolch i'ch setliad llywodraeth leol, sy'n grymuso cynghorau Cymru, o dan y cynigion hyn bydd gwasanaethau'n cael eu diogelu, a bydd arian ychwanegol yn cael ei ddyrannu i ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol ac i gefnogi isafswm cyflog sy'n uwch na'r cyflog byw go iawn, a'r cyfan gan gyfyngu'r cynnydd yn y dreth gyngor i 1 y cant, sydd, rwy'n credu, ymhlith yr isaf yng Nghymru. A ydych yn cytuno bod hon yn enghraifft wych o awdurdod dan arweiniad Llafur yn cefnogi ei drigolion yn ystod yr argyfwng costau byw gan ddiogelu'r gwasanaethau allweddol y maent i gyd yn dibynnu arnynt ar yr un pryd?