1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 9 Mawrth 2022.
3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gydag awdurdodau lleol ynghylch effaith cyfraddau treth cyngor ar yr argyfwng costau byw? OQ57737
Mae pennu lefelau’r dreth gyngor yn parhau i fod yn gyfrifoldeb ar bob awdurdod lleol, ynghyd ag ystyried yr holl ffynonellau cyllid sydd ar gael a blaenoriaethau lleol ar gyfer darparu gwasanaethau. Mae'n rhaid i awdurdodau sicrhau cydbwysedd rhwng cynnal gwasanaethau a'r pwysau ariannol ar aelwydydd.
Diolch, Weinidog. Fel y gŵyr pob un ohonom, mae teuluoedd ledled Cymru gyfan yn wynebu un o’r argyfyngau costau byw mwyaf difrifol ers degawdau. Mae costau cynyddol, prisiau ynni cynyddol a chyflogau sy'n aros yn eu hunfan yn golygu bod miloedd o aelwydydd yn fy rhanbarth yn ei chael hi'n anodd talu am eitemau bob dydd. Ac ym mis Ebrill, wrth gwrs, bydd costau ynni'n codi hyd yn oed ymhellach, bydd codiadau treth yn taro cartrefi, a ddoe, rhagwelodd Sefydliad Resolution sut y bydd y rhyfel ofnadwy yn Wcráin hefyd yn gwaethygu'r argyfwng hwn.
Ar hyn o bryd, sir Castell-nedd Port Talbot yn fy rhanbarth sydd â'r lefel dreth gyngor uchaf ond dwy yng Nghymru, ac mae wedi bod ag un o’r lefelau treth gyngor uchaf yng Nghymru ers dros 25 mlynedd. Mae llawer o fy etholwyr wedi dweud wrthyf pa mor annheg yw hyn yn eu barn hwy. Roedd setliad y gyllideb gan Lywodraeth Cymru i’r cyngor yn well nag arfer eleni, a byddai wedi bod yn bosibl torri’r dreth gyngor a buddsoddi yng ngwasanaethau’r cyngor hefyd. Cyflwynodd cynghorwyr Plaid Cymru a chynghorwyr annibynnol ar y cyngor gynnig ar y cyd i dorri'r dreth 2.75 y cant, a fyddai wedi gadael cronfeydd wrth gefn cyffredinol o bron i £18.5 miliwn i'r cyngor, yr uchaf yng Nghymru, ond gwrthodwyd hyn gan y cyngor a reolir gan Lafur.
Mae’r dreth gyngor yn effeithio’n anghymesur ar bobl ar incwm isel yn ein cymunedau, felly pa sgyrsiau y mae’r Gweinidog yn eu cael gydag arweinwyr cynghorau i sicrhau eu bod yn gwneud popeth a allant i gadw lefel y dreth gyngor mor isel â phosibl eleni? Ac a wnaiff y Llywodraeth ystyried galwad Plaid Cymru i ddileu dyled treth gyngor fel rhan o’n cynllun gweithredu ar yr argyfwng costau byw?
Diolch am eich cwestiwn, ac rwyf am ailadrodd eto fod yn rhaid i awdurdodau sicrhau'r cydbwysedd rhwng cynnal gwasanaethau ac ystyried y pwysau ar aelwydydd, heb gael fy nenu i wneud sylwadau ar benderfyniadau unrhyw awdurdod penodol, oherwydd penderfyniadau i awdurdodau lleol yw'r rhain, ac nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw pennu beth y dylent fod. Wrth gwrs, mae pŵer gennym i osod cap ar gynnydd, ond nid yw hwnnw'n bŵer a ddefnyddiwyd gennym hyd yma, ac o'r hyn a glywaf am y math o lefelau y mae awdurdodau yn meddwl amdanynt, er y ceir ystod, nid ydym wedi cyrraedd y pwynt lle'r ydym ymhell i mewn i ffigurau dwbl a fyddai'n golygu y byddem o ddifrif yn ystyried defnyddio'r pŵer hwnnw i osod cap ac yn y blaen. Felly, credaf mai dewisiadau i'r awdurdodau lleol yw'r rhain ar hyn o bryd.
Ar y pwynt ynglŷn â choelcerth dyledion, y gwn ei fod yn rhywbeth sydd wedi’i godi gan sawl un—rwyf wedi edrych ar hyn i weld a fyddai hyd yn oed yn bosibl. Nid oes gan awdurdodau lleol bŵer cyfreithiol i ddileu dyledion yn y ffordd honno. Mae ganddynt bŵer i weithio gydag unigolion ac yna i wneud penderfyniadau ar sail unigol, ond nid oes ganddynt bŵer o'r fath i ddileu dyledion. Felly, yn gyfreithiol, nid yw hynny'n opsiwn. Ond gallant weithio gydag unigolion, a buom yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu fframwaith iddynt wneud hynny er mwyn sicrhau eu bod yn gallu nodi aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd a gweithio ochr yn ochr â hwy wedyn i archwilio a ydynt yn hawlio'r holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl i'w cael ac yn y blaen, neu a oes angen rhyw fath o gymorth ychwanegol ar y teulu neu’r aelwyd. Felly, nid wyf yn mynd i gael fy nenu i sôn am gynghorau unigol, ond fe ddywedaf fod ganddynt alluoedd i ddarparu cymorth unigol i aelwydydd.
Weinidog, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi rhoi £175 miliwn i Gymru i helpu teuluoedd gweithgar yng Nghymru gydag achubiaeth ariannol i helpu i leddfu pwysau costau byw. [Torri ar draws.] 'Hwrê', yn hollol. Croesawaf benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddilyn Lloegr a darparu ad-daliad arian parod o £150 i gartrefi ym mandiau treth gyngor A i D, ac i greu cronfa ddewisol i roi cymorth pellach i aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu’r cyllid ychwanegol hwn gan San Steffan, ac a wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am eich trafodaethau gydag awdurdodau lleol ynglŷn â sut a phryd y bydd ad-daliad y dreth gyngor yn cael ei ddarparu i aelwydydd sydd eisoes yn teimlo’r pwysau ar eu cyllidebau dyddiol? Diolch.
Wel, bydd Natasha Asghar yn falch iawn o glywed ein bod wedi rhoi mwy na'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi'i ddarparu i dalwyr y dreth gyngor yn Lloegr, ac wedi mynd ymhellach o lawer drwy allu darparu pecyn cymorth sy'n werth bron i ddwbl yr hyn sydd ar gael dros y ffin yn Lloegr. Felly, bydd awdurdodau—mae'n ddrwg gennyf, bydd aelwydydd—yn cael y taliad o £150 ym mhob cartref ym mandiau A i D, ond hefyd, yng Nghymru, os ydych yn dderbynnydd cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, byddwch hefyd yn cael y taliad hwnnw, ni waeth ym mha fand yr ydych ynddo. Yn ogystal, wrth gwrs, mae aelwydydd yng Nghymru wedi gallu cael taliad o £200 os ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd i'w helpu gyda phrisiau uchel y gaeaf, neu'r prisiau tanwydd uchel, a welir ar hyn o bryd, a byddwn hefyd yn gallu cyflawni'r cynllun hwnnw eto o fis Hydref nesaf ymlaen i sicrhau ein bod yn rhoi cymorth i deuluoedd tuag at ddiwedd y flwyddyn, pan fydd pethau'n brathu o ran yr angen i ddefnyddio mwy o danwydd ac yn y blaen.
Yn ogystal, rydym wedi rhoi £25 miliwn i awdurdodau lleol allu darparu cymorth dewisol, gan gydnabod na fydd pob cartref yn gallu perthyn i un o'r categorïau hyn. Felly, rydym wedi mynd y tu hwnt i'r hyn a oedd ar gael yn Lloegr. Nid wyf am fynd i drafod a oedd yn arian ychwanegol ai peidio, gan fy mod wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid ar y mater hwnnw, yn nodi amserlen digwyddiadau a gwybodaeth a rannodd y Trysorlys gyda ni, a oedd yn golygu mewn gwirionedd ein bod yn waeth ein byd ar ôl cyhoeddiad Llywodraeth y DU am yr ad-daliad o £150 dros y ffin. Ond rwy'n hapus i roi copi o'r llythyr hwnnw yn y Llyfrgell er mwyn i bawb gael golwg arno yn eu hamser eu hunain.
Weinidog, yfory bydd cyngor Rhondda Cynon Taf yn pleidleisio ar eu cyllideb ar gyfer 2022-23. Diolch i'ch setliad llywodraeth leol, sy'n grymuso cynghorau Cymru, o dan y cynigion hyn bydd gwasanaethau'n cael eu diogelu, a bydd arian ychwanegol yn cael ei ddyrannu i ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol ac i gefnogi isafswm cyflog sy'n uwch na'r cyflog byw go iawn, a'r cyfan gan gyfyngu'r cynnydd yn y dreth gyngor i 1 y cant, sydd, rwy'n credu, ymhlith yr isaf yng Nghymru. A ydych yn cytuno bod hon yn enghraifft wych o awdurdod dan arweiniad Llafur yn cefnogi ei drigolion yn ystod yr argyfwng costau byw gan ddiogelu'r gwasanaethau allweddol y maent i gyd yn dibynnu arnynt ar yr un pryd?
Wel, rwyf mewn sefyllfa braidd yn anodd yn awr, ar ôl ymrwymo i beidio â gwneud sylwadau ar benderfyniadau awdurdodau unigol, ond mae'r Aelod yn gwneud pwynt rhagorol.