Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 9 Mawrth 2022.
Rwy'n credu mai'r peth cyntaf yr hoffwn ei ddweud yw nad wyf am achub y blaen ar yr ymgynghoriad. Nid wyf wedi gweld unrhyw ymatebion eto. Fel y dywedaf, mae fy swyddogion wrthi'n eu dadansoddi ar hyn o bryd. Ac yn amlwg, bydd yr wybodaeth a gyflwynir o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn bwydo i mewn wedyn i'r rhaglen adnewyddedig i ddileu TB y byddaf yn gwneud datganiad arni ym mis Gorffennaf. Felly, credaf mai dyna'r peth cyntaf i'w ddweud.
Rydych yn llygad eich lle, prisio yw un o'r agweddau yr ydym yn edrych arnynt yn yr ymgynghoriad, a chredaf, unwaith eto, ei bod yn deg iawn dweud bod gennym ddyletswydd statudol i ddigolledu ffermwyr mewn perthynas â TB, ac rydym bob amser yn gorwario. Mae'n gyllideb o fewn fy nghyllideb gyfan sydd bob amser yn cael ei gorwario, ac mae'n rhaid imi ddod o hyd i'r cyllid hwnnw bob amser. Ac yn amlwg, arian cyhoeddus yw hwnnw, ac mae angen inni sicrhau bod yr arian cyhoeddus hwnnw'n cael ei wario'n briodol. Credaf fod y ffordd y gwnawn y prisiadau yn awr yn gywir. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol iawn fod gwerth anifail ar y farchnad wedi ei ddiffinio fel pris y gellid ei ddisgwyl yn rhesymol am yr anifail yn y farchnad pe na bai TB arno, ac mae'n gwbl seiliedig ar bris y farchnad. Fel Llywodraeth, rydym yn penodi panel o briswyr dan gontract i asesu gwerth anifeiliaid sydd i'w lladd oherwydd TB. Ond mae hyn yn rhan bwysig o'r ymgynghoriad, ac fel y dywedaf, nid wyf am achub y blaen ar yr hyn y byddwn yn ei gyflwyno.
Rwy'n llwyr sylweddoli ei fod yn gyflwr gofidus iawn. Rwyf wedi bod ar ffermydd lle mae ffermwyr yn aros am ganlyniadau profion TB neu'n llawn gofid am ei fod yn agosáu, ac rwy'n deall yn iawn y dinistr y mae'n ei achosi. A dyna pam y mae'n bwysig iawn fod y rhaglen i ddileu TB yn gwneud yr hyn yr ydym eisiau iddi ei wneud, sef dileu TB yma yng Nghymru.