Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 9 Mawrth 2022.
Diolch, Lywydd. Weinidog, yn 2019, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £1.29 miliwn i gefnogi a thyfu sector moch Cymru, gyda Cyswllt Ffermio yn dweud bod cynhyrchiant moch yn profi adfywiad yng Nghymru. Yn anffodus, mae digwyddiadau byd-eang, megis colli'r farchnad allforio i Tsieina yn achos rhai proseswyr moch, yr aflonyddwch rhyngwladol i gyflenwadau carbon deuocsid, a'r prinder llafur byd-eang, wedi golygu bod diwydiant moch Cymru wedi wynebu sawl her dros y misoedd diwethaf. Fodd bynnag, rwy'n pryderu'n benodol am y ffermwyr moch sy'n wynebu caledi ariannol oherwydd proseswyr sy'n gwrthod cyflawni eu contractau. Gan fod hwn yn sector y mae Llywodraeth Cymru wedi dangos diddordeb arbennig ynddo, fel y nodais, rwy'n synnu nad yw Llywodraeth Cymru wedi darparu unrhyw gefnogaeth uniongyrchol i'r sector ar yr adeg hon. Mae ffermwyr moch sy'n ei chael hi'n anodd yn yr Alban, Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon, Ffrainc, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a Gwlad Pwyl wedi cael cefnogaeth gan eu Llywodraethau. Pam nad ydych chi wedi cefnogi ffermwyr moch sy'n ei chael hi'n anodd yng Nghymru?