Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 9 Mawrth 2022.
Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am y sector moch. Fel Gweinidog, credaf mai dim ond dwy fferm foch yr ymwelais â hwy erioed, am ei fod yn rhan fach iawn o'r sector amaethyddol yma yng Nghymru. Pan oeddem yn ystyried a ddylem gefnogi'r sector moch ai peidio—fe sonioch chi am broblemau gyda'r cyflenwad carbon deuocsid yn arbennig, ac rwy'n credu mai o gwmpas yr adeg honno pan oedd hynny'n cyrraedd uchafbwynt y gwnaethom edrych ar hynny—penderfynwyd peidio â gwneud hynny, oherwydd nifer y ffermydd a oedd wedi bod mewn trafodaethau gyda swyddogion ynglŷn â hynny. Ond rwyf bob amser yn agored i hynny; os oes gennych ffermwyr moch penodol yn eich etholaeth, cysylltwch â mi yn eu cylch. Ond nid oedd yn rhywbeth a laniodd ar fy nesg yn yr un ffordd ag y gwnaeth gyda phethau eraill, megis y sector llaeth, er enghraifft.