Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 9 Mawrth 2022.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhybuddio y bydd y cynigion yn y rhaglen adnewyddedig i ddileu TB yn cael effaith andwyol ar iechyd meddwl ffermwyr. Wrth gwrs, rydym eisoes yn gweld 50 o weithwyr amaethyddol yn cyflawni hunanladdiad bob blwyddyn, ac mae milfeddygon dair i bedair gwaith yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad nag unrhyw broffesiwn arall. Yng ngoleuni hynny, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod pa ystyriaethau y mae'r Gweinidog wedi'u rhoi i effeithiau'r cynigion hyn ar gyflwr meddyliol cymunedau gwledig, oherwydd yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, mae'r ffaith na chafwyd asesiad o'r effaith yn ddiffyg sylfaenol.