Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 9 Mawrth 2022.
Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi eich caniatâd i grwpio cwestiynau 1 a 3. Daeth yr ymgynghoriad ar raglen adnewyddedig i ddileu TB i ben ar 8 Chwefror 2022. Daeth 246 o ymatebion i law, ac mae'r rhain yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd. Byddaf yn gwneud datganiad ar raglen adnewyddedig i ddileu TB ym mis Gorffennaf eleni.