Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 9 Mawrth 2022.
Soniais fod yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi a'u hadolygu ar hyn o bryd. Fy nghynllun wedyn yw cyflwyno'r rhaglen adnewyddedig i ddileu TB, a byddaf yn gwneud datganiad. Rwy'n dychmygu y bydd y ddau'n mynd law yn llaw—cyhoeddi'r rhaglen adnewyddedig a'r datganiad—ym mis Gorffennaf eleni, a dyna pryd y caiff yr holl ddogfennau ynglŷn â hynny eu cyhoeddi, er y byddaf yn cyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyn hynny.