Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:43, 9 Mawrth 2022

Diolch, Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am yr ymateb yna. Ond i barhau efo'r diciâu, ddwy flynedd yn ôl, fe gyhoeddodd DEFRA adroddiad yn dangos effaith ariannol y diciâu ar ffermydd gwartheg yng Nghymru ac yn Lloegr. Mae'n dangos bod canolrif y gost sy'n cael ei thalu'n uniongyrchol gan eu busnesau yn anferthol. Dros naw mis, mae fferm sydd yn gorfod ymdopi ag achos cronig o'r diciâu yn gorfod talu £16,000. Er mwyn rhoi'r ffigwr yna yn ei gyd-destun, incwm cyfartalog busnesau fferm yng Nghymru ddwy flynedd yn ôl oedd £26,200. Mae'n rhaid gwneud mwy felly i gefnogi ffermwyr sy'n gweld yr haint yma ar eu ffermydd. Mae hyn heb sôn am yr effaith ar iechyd meddwl y teuluoedd ar y ffermydd yma ac ar y gymuned. Ond eto, er hyn, dydy'r Llywodraeth ddim wedi nodi'r costau yma neu unrhyw effeithiau a ddaw o'r cynigion ar fusnesau amaethyddol Cymru yn yr ymgynghoriad diweddar. Bydd cynigion y Llywodraeth ar y diciâu yn arwain at effeithiau sylweddol ar amaeth yma, ond eto, dydy'r Llywodraeth ddim wedi cyhoeddi asesiad effaith rheoleiddiol llawn na chynhwysfawr ochr yn ochr â'r ddogfen ymgynghori. Mae'n rhaid cael asesiad effaith rheoleiddiol. Weinidog, pryd gawn ni un?