Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 9 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr iawn. Rydym eisoes wedi trafod yr aflonyddwch i farchnadoedd bwyd sy'n digwydd o ganlyniad i Brexit a'r rhyfel yn Wcráin, ond hoffwn ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru, oherwydd un o'r cytundebau pwysicaf o fewn y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yw darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd. Felly, yn unol ag amcanion economi sylfaenol Llywodraeth Cymru a'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, pa gamau y mae eich swyddogion yn eu cymryd i hyrwyddo garddwriaeth yng Nghymru fel y gall awdurdodau addysgol lleol ddod o hyd i'r tunelli ychwanegol o lysiau ffres y bydd eu hangen arnynt er mwyn iddynt allu cydymffurfio â safonau bwyta'n iach, a helpu i gryfhau economïau bwyd lleol hefyd?