2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 9 Mawrth 2022.
4. Beth yw strategaeth y Gweinidog ar gyfer cynyddu faint o lysiau a gaiff eu tyfu yng Nghymru? OQ57746
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth cynhwysfawr ac yn hyrwyddo tyfu llysiau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant a chyngor pwrpasol a ddarperir gan Tyfu Cymru a Cyswllt Ffermio, ac mae ein prosbectws amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir yn cynnig cyngor ac yn annog buddsoddi yn y rhan hon o'r sector amaethyddol.
Diolch yn fawr iawn. Rydym eisoes wedi trafod yr aflonyddwch i farchnadoedd bwyd sy'n digwydd o ganlyniad i Brexit a'r rhyfel yn Wcráin, ond hoffwn ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru, oherwydd un o'r cytundebau pwysicaf o fewn y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yw darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd. Felly, yn unol ag amcanion economi sylfaenol Llywodraeth Cymru a'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, pa gamau y mae eich swyddogion yn eu cymryd i hyrwyddo garddwriaeth yng Nghymru fel y gall awdurdodau addysgol lleol ddod o hyd i'r tunelli ychwanegol o lysiau ffres y bydd eu hangen arnynt er mwyn iddynt allu cydymffurfio â safonau bwyta'n iach, a helpu i gryfhau economïau bwyd lleol hefyd?
Efallai eich bod wedi clywed y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, yn ei hateb i gwestiwn ynghylch caffael bwyd, sy'n amlwg yn rhan o'r prydau ysgol am ddim a'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar y materion hyn—. Mae'r gwaith yn cael ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ac maent yn edrych ar sut y gallwn gynyddu'r cyflenwad o fwyd o Gymru mewn prydau ysgol. A soniais am y gefnogaeth rydym yn ei rhoi i ffermio, oherwydd os yw ffermio moch yn rhan fach iawn o'r sector amaethyddol yma yng Nghymru, mae garddwriaeth hyd yn oed yn llai; dim ond 1 y cant o'r sector amaethyddiaeth ydyw. Felly, fel y gwyddoch, mae'n rhywbeth y bûm yn awyddus iawn i'w hyrwyddo, a byddwn yn cynnig cymorth i annog ffermwyr, os ydynt yn dymuno troi at ochr arddwriaethol ffermio.
Os ydym am fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i gyflenwyr lleol ac annog mwy o gynhyrchwyr i fod yn rhan o hyn, credaf mai un o'r pethau sy'n rhaid inni ei wneud yw newid caffael cyhoeddus. Mae gwir angen inni symud oddi wrth y gost isaf mewn tendrau bwyd a sicrhau ein bod yn cynnwys gwerth cymdeithasol a gwerth amgylcheddol, ac ystyriaethau ansawdd hefyd. Rwy'n credu bod angen i bobl werthfawrogi gwerth tarddiad lleol. Felly, mae hwn yn waith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, yn enwedig mewn perthynas â phrydau ysgol am ddim, fel y dywedwch, sy'n rhan o'r cytundeb cydweithio.
Mae garddwriaeth yng Nghymru wedi bod yn dirywio ers amser, gyda llai na 3,000 hectar bellach yn cael eu trin ar gyfer tatws, llysiau maes, perllannau ffrwythau bach a pherllannau masnachol. Mae nifer yr hectarau wedi haneru mewn 40 mlynedd. Nawr, yn ôl Prifysgol Caerdydd, er mwyn i Gymru gynhyrchu'r ffrwythau a llysiau sydd eu hangen i fodloni argymhellion maethol pump y dydd, byddai angen 2 y cant o arwynebedd tir Cymru i'w gynhyrchu. Nawr, fel y gwyddoch, Weinidog, credaf y dylai Llywodraeth Cymru wobrwyo ac annog ein ffermwyr yng Nghymru i barhau i gynhyrchu bwyd, gan fynd â ni gam yn nes at fod yn fwy hunangynhaliol. Felly, tybed a wnewch chi egluro i ba raddau y mae Bil amaethyddol (Cymru) yn gyfle inni geisio hybu cynhyrchiant bwyd lleol yng Nghymru, yn hytrach na'n gwneud yn fwy dibynnol ar fewnforion o'r tu allan i Gymru ar gyfer ein cig, ein llaeth, ein ffrwythau a'n llysiau? Diolch.
Nid wyf yn cydnabod y ffigurau y mae Janet Finch-Saunders yn cyfeirio atynt, ac yn ddiddorol, nid wyf yn gwybod a oeddech yn y Siambr yr wythnos diwethaf pan ddaeth Jenny Rathbone i mewn yn cario cenhinen a gofyn imi faint o gennin sy'n cael eu tyfu yng Nghymru, felly rwyf wedi gwneud yn siŵr fod gennyf y ffigur hwnnw rhag ofn i Jenny ofyn imi eto heddiw.
Nid y ffigur unigol, ond tyfwyd 1,500 tunnell o gennin gan Puffin Produce yn unig, ac maent yn gobeithio tyfu 50 y cant yn fwy eto y flwyddyn nesaf. Felly, ni fyddwn yn dweud bod y sector garddwriaethol yn dirywio. Soniais yn fy ateb gwreiddiol i Jenny ein bod wedi cyhoeddi prosbectws 'Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd a Reolir' ym mis Medi 2021. Mae wedi bod yn ddiddorol iawn gweld y diddordeb yn hwnnw. Ymwelais â fferm fefus ym Mro Morgannwg sy'n defnyddio technegau amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir, ac mae'n dda iawn gweld y dull economi gylchol a fabwysiadwyd ganddynt.
Roedd eich cwestiwn penodol yn ymwneud â'r Bil amaethyddiaeth. Fe fyddwch yn gwybod bod y cynllun ffermio cynaliadwy yn rhan o'r Bil amaethyddiaeth, ac mae'r ffordd y caiff bwyd ei gynhyrchu, sicrhau'r bwyd cynaliadwy hwnnw, yn gwbl hanfodol i'r cynllun ffermio cynaliadwy a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i gynorthwyo ein ffermwyr. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn wahanol i gynllun y taliad sylfaenol. Yr hyn a wnawn yw gwobrwyo ein ffermwyr—yr arian cyhoeddus a gânt am ddarparu nwyddau cyhoeddus—ac er ein bod bob amser wedi dweud nad yw bwyd yn nwydd cyhoeddus, yr hyn y byddwn yn ei wneud yn y Bil amaethyddiaeth yw hyrwyddo cynhyrchiant bwyd cynaliadwy a thalu amdano.