Adfer Rhywogaethau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:51, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Chwe wythnos yn ôl, mewn ymateb ysgrifenedig i mi, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd

'Yn fwy hirdymor, bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn fecanwaith pwysig ac yn ffynhonnell arian i fynd i'r afael â cholli cynefinoedd a dirywiad rhywogaethau, gan gynnwys rhai o'n hadar fferm eiconig megis y gylfinir. Bydd sylwadau gan bartneriaeth Gylfinir Cymru yn cael eu hystyried gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wrth i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy gael ei ddatblygu.'

Ond gyda'r bygythiad y byddant wedi diflannu ar lefel gwlad erbyn 2033, rwy'n gobeithio y byddech yn cytuno nad oes gennym amser i aros. Gan y bydd yn cymryd y rhan orau o ddegawd i gyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy ledled Cymru, sut y bydd hyn yn helpu i adfer poblogaethau o rywogaethau prin a bregus fel y gylfinir, sy'n galw am weithredu ar frys yn awr os nad ydym yn mynd i'w colli yng Nghymru? Ac a all y Gweinidog gadarnhau ei bod yn derbyn cais Gylfinir Cymru am gyfarfod ar y safle gyda ffermwyr, rheolwyr tir a phartneriaid Gylfinir Cymru i drafod adferiad y gylfinir, y manteision lluosog ac amlrywogaethol ehangach, a chefnogi datblygu polisi fel y cynllun ffermio cynaliadwy o bosibl?