Adfer Rhywogaethau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:52, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, gan ein bod eisoes ynghanol argyfwng hinsawdd a natur, rydych yn llygad eich lle nad oes gennym amser i'w wastraffu. Felly, ni fyddwn eisiau i bobl feddwl ein bod yn aros i'r cynllun ffermio cynaliadwy ymddangos cyn diogelu ein rhywogaethau, a bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn o lawer o gynlluniau sydd bellach yn rhan o bortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd—y cynllun rheoli cynaliadwy, er enghraifft, sydd eisoes yn gwella cadernid ein hecosystemau, mae'n gwella ein bioamrywiaeth, ac wrth gwrs mae'n mynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae cyllid sylweddol—oddeutu £235 miliwn, rwy'n credu—eisoes wedi'i ddarparu i oddeutu 50 o brosiectau ledled Cymru. Mae gennym hefyd y rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd, sy'n helpu i gynyddu cadernid ecosystemau ein mawndiroedd yng Nghymru. Felly, bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn edrych ar arferion da y cynlluniau hyn ac yn adeiladu arnynt.