Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joel James Joel James Conservative 3:05, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Fel y gwyddoch eisoes o bosibl, mae'r rhan fwyaf o brosiectau amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned yn seiliedig ar ddarnau bach o dir, gyda llawer ohonynt yn llai na 3 hectar o ran maint. Fel y cyfryw, yn hanesyddol, maent wedi bod yn anghymwys ar gyfer cael cymorth ariannol drwy'r polisïau amaethyddol prif ffrwd, gan gynnwys cynlluniau taliad sylfaenol a Glastir, ac yn anffodus, ychydig iawn y mae’r rheini sy’n gymwys wedi elwa o system sy’n seiliedig ar daliadau arwynebedd daliad.

Gan fod y DU bellach wedi gadael yr UE ac nad yw wedi’i rhwymo bellach gan y polisi amaethyddol cyffredin, mae cyfle yn awr i gefnogi busnesau amaethyddol cymunedol a busnesau bwyd cymunedol eraill yn well ar lefel briodol i’r nwyddau cyhoeddus y maent yn eu darparu. Fel y bydd y Gweinidog yn cydnabod, mae'n siŵr, byddai helpu i ddatblygu prosiectau amaethyddol cymunedol drwy gyllid uniongyrchol yn cyd-fynd yn dda â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac felly byddai o fudd mawr i Lywodraeth Cymru. Felly, a all y Gweinidog amlinellu pa gynigion y mae’r Llywodraeth yn bwriadu eu gwneud i sicrhau bod cyllid ar gael yn benodol er budd amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned? Diolch.