Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:06, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Credaf fod gwaith ffermydd a gefnogir gan y gymuned yn darparu manteision gwirioneddol i fywydau llawer o bobl, ac mae'n bwysig iawn, os gallwn eu cefnogi, ac os ydynt yn dymuno cyflawni ein nodau, ein bod yn gallu gwneud hynny. Bydd arian cyhoeddus am nwyddau cyhoeddus, a fydd yn rhan o’r cynllun ffermio cynaliadwy, yn sicr yn gydnaws â ffermydd a gefnogir gan y gymuned. Hefyd, cyfeiriais mewn atebion cynharach at y strategaeth bwyd cymunedol yr ydym yn ei datblygu, ac unwaith eto, credaf fod ganddi botensial i sicrhau llawer o fanteision i'r ffermydd llai a gefnogir gan y gymuned. I mi, mae’n wirioneddol bwysig fod ffermwr actif, beth bynnag yw maint ei fferm, yn gallu cymryd rhan yn y cynllun ffermio cynaliadwy, ac wrth inni fynd drwy’r broses gydlunio, rydym am sicrhau bod pob math o fferm, a ffermydd o bob maint, ledled Cymru, yn gymwys i wneud cais.