Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 9 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog. Mae'r cyhoeddiad a'r datganiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn sobri rhywun. Os darllenwch chi ganllawiau yr arolygiaeth, mae'n egluro'r broses maen nhw'n ei dilyn wrth roi gwasanaeth yn y categori o fod eisiau gwelliant sylweddol. Mae'n egluro eu bod nhw'n gorff sy'n mynnu gweithredu pan fyddan nhw'n gweld bod safonau ddim yn cael eu cyrraedd.