Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 9 Mawrth 2022.
A ydych yn cydnabod, fel a drafodwyd yma, ac fel y nododd y Cwnsler Cyffredinol, fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r union bolisi hwnnw mewn perthynas â menywod—na ddylent fod yn y carchar, y dylent fod yn y gymuned—a'u bod yn ariannu cyfres o ganolfannau newydd i fenywod, gan gynnwys un yng Nghymru? Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym fis Tachwedd diwethaf yn y Siambr hon fod hynny'n datblygu'n dda a bod trafodaethau'n mynd rhagddynt i sefydlu'r ganolfan honno.