Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 9 Mawrth 2022.
Credaf ein bod yn clywed llawer o rethreg gan Lywodraeth y DU, Mark, ond ni chafwyd tystiolaeth ymarferol ohoni bob amser. Oes, efallai fod enghreifftiau unigol, ond rydym am weld dull o weithredu cyson ym maes plismona a chyfiawnder troseddol, sy'n symud ymlaen at yr hyn y byddwn yn ei alw'n dir blaengar a goleuedig fel yr ydym eisoes wedi clywed amdano yn y ddadl hon heddiw, a chredaf fod gwir angen hynny.
Rwy'n gwybod gan ddarparwyr gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, er enghraifft, eu bod yn teimlo eu bod yn ceisio gwasanaethu dau feistr, fel petai, yng Nghymru. Mae ganddynt y Swyddfa Gartref, a pholisïau'r Swyddfa Gartref ar gyffuriau anghyfreithlon, er enghraifft, sy'n ymwneud yn helaeth â throseddoli a'r llwybr cyfiawnder troseddol, ac mae ganddynt bolisïau Llywodraeth Cymru, sy'n ymwneud llawer mwy ag iechyd ac atal a thrin. Nid yw'n hawdd gwasanaethu dau feistr yn y ffordd honno, ac rwy'n gwybod bod y rhai sy'n darparu gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol hanfodol yn teimlo nad ydynt yn gweithredu mor effeithlon ac effeithiol â phosibl o ganlyniad i hynny. Mae gennym lawer o gynlluniau. Gwn fod Dyfodol Cadarnhaol, sy'n gweithredu drwy Casnewydd Fyw, yr ymddiriedolaeth hamdden yng Nghasnewydd, ac sy'n ceisio gweithio gyda phobl ifanc a'u dargyfeirio oddi ar y llwybr cyfiawnder troseddol, yn ei chael hi'n anodd, oherwydd unwaith eto, gweithiant o fewn y system blismona hon nad yw wedi'i datganoli, er eu bod yn cael eu hariannu, yn rhannol o leiaf, gan y comisiynydd heddlu a throseddu. Byddai bywyd yn llawer haws iddynt pe ceid dull o weithredu mwy cyson, integredig a chydgysylltiedig.
Mae llawer o amrywio rhanbarthol mewn plismona ledled Cymru, a'r ffordd y mae comisiynu'n digwydd ar y cyd â'r gwasanaethau iechyd neu beidio. Gallai llawer o hynny gael ei integreiddio'n well ac ni fyddai'n amrywio ledled Cymru pe bai Llywodraeth Cymru yn ymdrin â phlismona yn ogystal â'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Clywsom am wasanaethau cam-drin domestig; dyna enghraifft arall. Credaf fod y ddadl am gydgysylltiad gwell rhwng plismona a gwasanaethau datganoledig pe bai plismona'n cael ei ddatganoli wedi'i hen sefydlu a'i chydnabod, ac mae llawer o waith yn y Senedd yn pwyntio i'r cyfeiriad hwnnw, gan gynnwys gwaith gan ein pwyllgor iechyd, rwy'n credu, yn ôl yn 2019, pan wnaethant argymhellion pwysig am iechyd meddwl mewn plismona ac yn nalfeydd yr heddlu. Gwn fod gwasanaeth yr heddlu yng Ngwent yn gweithio'n agos iawn gyda gwasanaethau iechyd meddwl. Mae ganddynt dîm o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol sy'n ceisio ymdopi â'r straen ddifrifol iawn ar blismona, oherwydd nid yw'r heddlu'n weithwyr iechyd meddwl proffesiynol, ond maent yn aml iawn yn wynebu'r problemau iechyd meddwl hyn wrth gyflawni eu dyletswyddau plismona, ac maent hefyd yn ceisio hyfforddi eu heddlu eu hunain i raddau llawer mwy, yn ogystal â gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd. Credaf fod cydgysylltiad rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a phlismona yn un a fyddai'n elwa'n fawr pe baem yn datganoli plismona.
Ddirprwy Lywydd, fel arfer rwy'n gweld bod amser yn brin. A gaf fi ddweud fy mod yn credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cydnabod y bydd plismona yng Nghymru yn cael ei ddatganoli yn y pen draw? Mae'n fater o ba bryd y bydd hynny'n digwydd. Ceir cymaint o fanteision pwysig. Gorau po gyntaf y bydd datganoli'n digwydd.