Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 9 Mawrth 2022.
Tanciau Rwsia'n symud tua'r gorllewin, dinasoedd yn cael eu bomio a than warchae, rhesi hir o ffoaduriaid yn ceisio dianc rhag yr ymladd. Gallech gael maddeuant am gredu fy mod yn cyfeirio at ddigwyddiadau yn yr Almaen ar ddiwedd yr ail ryfel byd. Yn anffodus, nid yw hynny'n wir. Mae'r Arlywydd Putin, drwy ei ymosodiad rhyfygus, anghyfiawn ac anghyfreithlon ar Wcráin, wedi troi'r cloc yn ôl ac wedi dod â rhyfel i Ewrop. Fodd bynnag, mae un gwahaniaeth mawr rhwng 2022 a 1945. Bryd hynny, y Rwsiaid a ddioddefodd ymosodiadau wrth ymladd grymoedd cyfundrefn greulon; heddiw mae'r sefyllfa fel arall.
Gwladwriaeth sofran, ddemocrataidd yw Wcráin sy'n dioddef ymosodiad bwriadol a digymell. Gadewch inni beidio â chael ein twyllo gan honiad Putin a hyrwyddir gan grwpiau o ddiffynwyr asgell chwith fod yr ymosodiad hwn wedi'i ysgogi gan awydd NATO i ehangu ei ddylanwad. Cynghrair amddiffynnol yw NATO gyda'i bolisi swyddogol yn datgan nad yw'r gynghrair yn ceisio gwrthdaro ac nad yw'n creu unrhyw fygythiad i Rwsia. Dim ond 6 y cant o ffiniau tir Rwsia sy'n cyffwrdd â gwledydd sy'n aelodau o NATO. Mae Rwsia'n ffinio â 14 o wledydd, a dim ond pump ohonynt sy'n perthyn i NATO. Y ddwy wlad olaf i ymuno â'r gynghrair oedd Montenegro yn 2017 a Gogledd Macedonia yn 2020, a phrin fod y rheini'n creu bygythiad i ddiogelwch Rwsia. Yn wir, Rwsia o dan Putin sydd wedi bod yn gyson ymosodol.
Yn 2008, ymosododd Rwsia ar hen weriniaeth Sofietaidd Georgia i gefnogi gweriniaethau a oedd yn honni eu bod wedi torri'n rhydd yn Ne Ossetia ac Abkhazia. Yn 2014, ymosodwyd ar Wcráin ei hun gan filwyr o Rwsia a feddiannodd Donetsk, Luhansk a Crimea. Os mai bwriad Putin oedd gwanhau NATO, mae wedi methu'n ysblennydd, gyda'r gynghrair yn fwy unedig nag erioed a gwledydd fel Sweden a'r Ffindir bellach yn ystyried gwneud cais i ddod yn aelodau. Mae gwledydd ledled y byd wedi gweithredu i sicrhau bod Putin yn teimlo cost lawn ei weithredoedd, gan gynnwys gweithredu'r pecyn mwyaf llym o sancsiynau a welodd Rwsia erioed. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi cynllun chwe phwynt ar gyfer yr ymateb byd-eang, gan roi arweiniad clir i sicrhau bod ymddygiad ymosodol gweithredol Putin yn methu ar bob cyfrif. Ar sancsiynau, mae'r Deyrnas Unedig wedi rhewi £258 biliwn o asedau banc Rwsia, mwy nag unrhyw wlad. Rydym yn gweithredu sancsiynau sy'n ergyd drom i economi Rwsia, gan gyfyngu ar ei gallu milwrol ddiwydiannol, a niweidio cylch mewnol Putin o oligarchiaid yn bersonol. Ac rydym yn darparu cymorth dyngarol i Wcráin yn ei hawr o angen.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae dros 2 filiwn o bobl wedi dianc rhag yr ymladd yn Wcráin. Rwy'n deall ac yn cytuno'n llwyr fod angen gwneud gwiriadau i sicrhau ein bod yn helpu'r rheini sydd mewn gwir angen, dull sy'n seiliedig ar y cyngor diogelwch cryfaf. Fodd bynnag, fel Ceidwadwr sy'n Aelod o Senedd Cymru, rwy'n annog y Swyddfa Gartref, ger eich bron chi i gyd yma heddiw, i gyflymu'r broses, fel y gall y rheini sy'n chwilio am hafan ddiogel yn y DU ddod o hyd i loches yma. Dros yr ychydig sesiynau diwethaf, clywais areithiau gan bob plaid ac Aelodau amrywiol ar Wcráin a sut y mae'r holl ddynion, menywod a phlant yn ein meddyliau a'n gweddïau yn wir. Fel chithau, mae fy nghalon yn gwaedu drostynt hefyd.
Rwyf am rannu rhywbeth gyda phawb ohonoch yma heddiw. Ychydig wythnosau yn ôl, cysylltodd un o fy etholwyr â mi. Oherwydd cyfrinachedd—nid yw eisiau i'w henw gael ei ddatgelu—rwy'n mynd i'w galw'n Miss B. Ysgrifennodd ataf a dweud, 'Natasha, rwy'n gofyn am eich help. Mae fy mam, fy nhad a'u baban newydd-anedig yn Wcráin. Helpwch hwy i ddod oddi yno. Nid ydynt yn gwybod beth i'w wneud, ac nid wyf yn gwybod beth i'w wneud fy hun.' Yn naturiol, fy ymateb cyntaf oedd, 'Dowch â hwy allan cyn gynted ag y gallwch ac mor gyflym ag y gallwch'. Ac yna, yn amlwg ar ôl hynny, fe ddywedodd, 'Natasha, rwy'n gwneud fy ngorau glas, ond nid wyf yn gwybod beth arall i'w wneud.' Ar ôl cysylltu â'r swyddfa dramor a Chymanwlad, ni chysgais am wythnos am fy mod yn wirioneddol bryderus am eu lles. Mae'r teulu'n byw yn fy etholaeth. Maent mor Gymreig â phob un ohonom sy'n eistedd yn y Senedd hon. Gan fod ganddynt fabi newydd-anedig a'u bod yno am resymau meddygol dilys, roedd ganddynt reswm dilys dros fod yno, ac roeddent am ddod adref a bod gyda'i gilydd fel teulu.
Mae eu merch, sy'n arwres newydd i mi, wedi gweithio'n ddiflino i'w cael adref, ac mae wedi dweud wrthyf o'r diwedd fod y teulu yn ôl yn ddiogel. Siaradais â Mr B heddiw, y tad, a ddywedodd wrthyf, er eu bod wedi'u dal yn yr ymosodiad, eu bod wedi gadael Kyiv am Lviv yng ngorllewin y wlad mewn tacsi, a chymerodd dros ddau ddiwrnod iddynt gyrraedd. Oherwydd y rhwystrau ffordd ym mhobman, aethant mewn tacsi arall i'r ffin â Gwlad Pwyl, ond cawsant eu gollwng tua 20 km o'r lle'r oedd yn rhaid iddynt fynd. Bu'n rhaid i ŵr, gwraig a'u baban newydd-anedig gerdded y pellter cyfan ar eu pen eu hunain. Nid oedd ganddynt bram, roedd yn rhaid iddynt gario eu bagiau, ond fe wnaethant gerdded y ffordd honno, a diolch i gymorth y swyddfa dramor a Chymanwlad, a weithiodd yn ddiflino i ddod â hwy'n ôl yn ddiogel, fe wnaethant lwyddo o'r diwedd i gyrraedd Gwlad Pwyl. Fel y dywedais, rwy'n falch iawn o glywed eu bod yn ôl adref a chyda'u teuluoedd. Maent yn llawn o ganmoliaeth i uchel gomisiwn Prydain, staff y llysgenhadaeth, y swyddfa dramor a Chymanwlad, a wnaeth eu gorau glas i'w helpu i gael eu dogfennau a rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol iddynt allu dianc, oherwydd, yn eu geiriau hwy, 'mae'r holl system ar-lein yn Wcráin wedi dod yn agored i ymosodiadau seiber o Rwsia'.
Lywydd, nid cryfder y corff sy'n cyfrif, ond cryfder yr ysbryd. Mae ysbryd pobl Wcráin a'r rhai nad ydynt efallai wedi'u geni yn Wcráin ond sy'n ei hystyried yn gartref, a hefyd fy etholwyr a llawer o rai eraill fel hwy sydd wedi dod adref yn ddiogel, o dan arweinyddiaeth ysbrydoledig yr Arlywydd Zelenskyy, yn dal heb ei dorri, ac rwy'n siŵr y bydd eu cryfder yn parhau. Rwy'n credu'n gryf y bydd pobl Wcráin yn achub eu hunain drwy eu dewrder a'u penderfyniad ac yn achub y byd drwy eu hesiampl. Diolch.