Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 9 Mawrth 2022.
Wel, gyfeillion, beth ddaw? Beth ddaw wir? Dyma gwestiwn y mae nifer o bobl yn gofyn i'w hunain heddiw. Mae'r dyfodol yn wlad dieithr, ac yr eiliad hon, mae'n un hynod o frawychus. Ond wrth feddwl am y dyfodol, mae'n help edrych yn ôl ar hanes, ac mae hanes yn dangos yn glir mai gwastraff ydy rhyfel, gwastraff bywyd yn anad dim arall.
Fe ddihangodd fy modryb Sheila, Iddewes, o Felarws adeg yr ail ryfel byd ar ôl gweld erchyllterau enbyd. Fe gollodd hi'r rhan fwyaf o'i theulu yno, ond roedd Sheila yn ffodus i gael lloches yn Llundain cyn dod i Gymru a'n cyfoethogi ni i gyd. Dyna ichi wers am frawdgarwch a chwaergarwch, cariad pobl Llundain a phobl Cymru at ddieithriaid. Boris Johnson, Priti Patel a'ch Cabinet yn San Steffan, dysgwch y wers. Rhoddwch loches i ffoaduriaid y byd. Rhag eu cywilydd am laesu eu dwylo.
Ond mae'r rhyfel yma yn cyflwyno erchylltra newydd, gwaeth nag argyfwng taflegrau Ciwba 1962 hyd yn oed. Mae cysgod llwm cwmwl madarch marwolaeth dros ein pennau. Ond does dim rhaid iddo fod fel hyn. Byddai rhyfel niwclear yn dinistrio pob dim. Ydyn ni am adael i hynna ddigwydd? Mae'n rhaid inni gymryd y cyfle yma i ddatgan yn glir nad oes lle i arfau niwclear yn y byd hwn.
Flwyddyn yn ôl, fe welson ni ddynoliaeth ar ei orau wrth i bobl gydweithio ar draws y byd er mwyn canfod brechlyn i gwffio yn erbyn COVID-19. Heddiw, rydyn ni'n gweld dynoliaeth ar ei waethaf, wrth i Putin gonsgriptio miloedd o fechgyn naïf a thlawd i ladd brodyr a chwiorydd Wcrainaidd. Ond nid dryll, ac yn sicr nid taflegryn niwclear, fydd yn dod â heddwch i'n byd, ond yn hytrach ewyllys pobl ddaw a heddwch. Cydsafwn efo'n brodyr a chwiorydd ar draws y byd sy'n wynebu gormes a thrais ac yn gweithio dros heddwch, ond cydsafwn yn enwedig felly efo pobl dewr Wcráin a chydsafwn efo pobl dewr Rwsia sy'n sefyll i fyny yn erbyn gormes Putin o dan fygythiad rhyfeddol i'w rhyddid a'u bywydau, gan weithio dros heddwch.