Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 9 Mawrth 2022.
Mae'r erchyllterau yr ydym i gyd yn eu gweld yn Wcráin yn atgoffa rhywun o gyfnod y credem, y gobeithiem ei fod yn perthyn i'r gorffennol. Yn gyntaf, rwyf am feddwl yn arbennig am y plant a'r bobl ifanc sydd wedi eu dal yn yr erchyllterau hyn. Mewn adroddiad o un o faestrefi Kyiv ddydd Llun, roedd trigolion yn rhedeg gyda'u plant ifanc mewn bygis neu'n cario babanod yn eu breichiau. Yn anffodus, mae hynny'n digwydd ledled y wlad, ac rydym newydd glywed yn yr awr ddiwethaf y newyddion arswydus gan yr Arlywydd Zelenskyy fod bom wedi glanio'n uniongyrchol ar ysbyty mamolaeth a phlant. Mae cyngor Mariupol yn dweud bod y difrod yn anferth ac yn dweud bod nifer wedi'u claddu o dan y rwbel. Ddoe, dywedodd yr Arlywydd Zelenskyy:
'Ni fyddwn yn caniatáu i neb yn y byd anwybyddu dioddefaint a llofruddiaeth ein pobl, ein plant.... Lladdwyd hanner cant o blant Wcráin mewn 13 diwrnod o ryfel. Ac mewn awr roedd yn 52, yn 52 o blant. Ni fyddaf byth yn maddau hynny.'
Mae babanod yn cael eu geni, llawer ohonynt yn gynamserol, mewn amodau dychrynllyd. Mewn un ysbyty, mae dwsinau o blant yn cael triniaeth ar ôl genedigaeth gynamserol, triniaeth ar gyfer canser ac ar gyfer afiechydon difrifol eraill, ac maent yn cael eu gwasgu i selerau gyda meddygon a nyrsys yn gwneud eu gorau i gadw triniaethau i fynd.
Ddydd Mawrth, diwygiodd y Cenhedloedd Unedig eu hamcangyfrif o nifer y bobl sy'n ffoi o Wcráin, gan ddweud bod 2 filiwn wedi gwneud hynny, yr ecsodus cyflymaf y mae Ewrop wedi'i weld ers yr ail ryfel byd. Menywod a phlant yw'r rhan fwyaf o'r 2 filiwn o bobl; mae'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau wedi dweud bod ymosodiad Putin ar Wcráin yn rhwygo teuluoedd ac yn gadael menywod a merched sydd wedi'u dadleoli mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin ac o wynebu trais rhywiol a chorfforol. Pan gaiff y plant a'r bobl ifanc hyn eu symud ar draws ffiniau, caiff y risgiau eu lluosi, yn anffodus. Gwn y bydd y Gweinidog yn ymwybodol o beryglon hyn, ac y bydd yn gweithio gydag eraill i sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan i helpu i ddiogelu'r plant a'r bobl ifanc hyn sy'n agored i niwed.
Rydym wedi gweld lluniau rhyfeddol o undod a chymorth ledled Ewrop: torfeydd yn aros mewn gorsafoedd trên i fynd â phobl i'w cartrefi, pramiau'n cael eu gadael mewn gorsafoedd yng Ngwlad Pwyl i rieni eu defnyddio pan fyddant yn cyrraedd gyda'u plant, a phobl yn gyrru am oriau at y ffin i wneud yr hyn a allant i helpu. Mae'n feirniadaeth drist o ymateb Llywodraeth y DU i'r argyfwng hwn mai'r lluniau sy'n gysylltiedig â'r DU ar hyn o bryd yw'r rhai o'r teuluoedd sydd wedi'u dal yn Calais ar ôl croesi Ewrop. Mae'r DU wedi ymateb yn dda gydag offer a chymorth logistaidd, ond pan ddaw'n fater o ddangos dyngarwch ac empathi drwy groesawu ffoaduriaid, yn hytrach nag arwain y ffordd, rydym ar ei hôl hi'n gywilyddus.
Rhaid inni sicrhau bod ein systemau yng Nghymru yn barod ar gyfer yr adeg pan fydd y teuluoedd hynny'n cyrraedd. Rydym eisoes wedi dangos cydweithrediad gwych gyda'r Urdd, fel y soniodd Rhun yn gynharach, wrth helpu plant a theuluoedd o Affganistan, prosiect rhagorol sy'n rhoi croeso i Gymru gyda thosturi, cyfeillgarwch a noddfa. Gwn fod trafodaethau eisoes ar waith i ailadrodd hyn gyda theuluoedd o Wcráin, a byddai'n dda iawn gweld y cynllun hwn yn cael ei ymestyn ledled Cymru i bawb sy'n ffoi rhag rhyfel. Gwn fod llawer o bobl yma yng Nghymru yn awyddus i groesawu ffoaduriaid a gwneud popeth yn eu gallu i gefnogi.
Yn bwysig, rhaid inni fod yn sensitif i effaith yr hyn sy'n digwydd yn Wcráin ar ein plant a'n pobl ifanc yma yng Nghymru. Mae'r genhedlaeth hon wedi tyfu i fyny yn fwy cysylltiedig â'u cymheiriaid ledled y byd nag erioed o'r blaen. Gwn fod adnoddau ar gael i rieni, gofalwyr ac athrawon allu siarad â phlant a phobl ifanc am hyn mewn ffordd sensitif. Mae BBC Newsround wedi bod yn adnodd da iawn, er enghraifft. Byddwn yn awyddus i glywed a oes mwy y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ddarparu cymorth ac adnoddau am yr hyn sy'n digwydd i'n holl blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Rydym yn falch o'n hagwedd dosturiol yng Nghymru. Mae pa mor gyflym y mae unigolion, grwpiau cymunedol ac elusennau a Llywodraeth Cymru wedi dod at ei gilydd i gael cymorth yn galonogol. Mae plant a phobl ifanc ledled Cymru eisoes yn gwneud llawer iawn i gefnogi'r rhai sy'n ffoi rhag rhyfel a'r rhai sy'n dal yn Wcráin, megis codi arian gyda'u hysgol neu grŵp. Dyma'r Gymru dosturiol yr ydym yn rhan ohoni, ac mae'r plant a'r bobl ifanc hyn yn arwain y ffordd. Dyna sy'n rhoi gobaith i ni.