Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 9 Mawrth 2022.
Rwy'n datgan fy mod yn gynghorydd yn sir y Fflint, ac fel y cyfryw, rwy'n falch mai Cyngor Sir y Fflint oedd y cyntaf mewn cenhedlaeth i adeiladu tai cyngor newydd, gan adeiladu 300 o dai cyngor newydd i'w gosod ar rent a 200 o dai fforddiadwy hefyd. Wrth siarad yn ddiweddar â'n pennaeth tai, mae prinder deunyddiau—pren, gwydr—a gweithlu medrus hefyd ers Brexit a'r pandemig yn achosi problem sy'n arafu'r gwaith o adeiladu tai ar hyn o bryd. Rwyf wedi siarad droeon am bolisïau tai Thatcheraidd sy'n gyfrifol am yr argyfwng tai y mae'r wlad hon yn ei wynebu. Mae gweld y Ceidwadwyr Cymreig yn awr yn galw am adfer y polisi hawl i brynu trychinebus yn dangos nad ydynt wedi dysgu unrhyw wersi o fethiannau Llywodraethau blaenorol San Steffan.
Ni chafodd tai eu hadeiladu yn lle'r mwyafrif llethol o gartrefi a werthwyd o dan y polisi hawl i brynu. Gwerthiant torfol asedau'r wladwriaeth i'r sector preifat ydoedd. Yn y gogledd, mae Grŵp Cynefin wedi tynnu sylw at y ffaith bod un hen eiddo awdurdod lleol wedi bod ar y farchnad am y pris syfrdanol o £385,000. O ystyried eu hanes yn gwerthu asedau cyhoeddus pan oeddent mewn grym, nid yw'n syndod ein bod yn gweld y Ceidwadwyr yn galw am fwy fyth o bolisïau marchnad rydd yn ein sector tai. Efallai ei fod yn ymwneud mwy â'r ffaith bod cymaint o eiddo a arferai fod yn eiddo i gynghorau bellach yn eiddo i landlordiaid prynu i osod, sy'n codi rhenti llawer uwch na rhent cymdeithasol am eiddo nad yw wedi'i atgyweirio ers iddo gael ei brynu. Mae'r tai hyn wedi dod yn fuddsoddiadau i bobl sy'n gefnog eisoes. Mae'r hawl i brynu wedi bod yn bot mêl i lawer o landlordiaid preifat, ac nid am y tenantiaid cyngor y mae'r Torïaid yn pryderu—ond am y pot mêl a gafodd ei gau gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd yr hawl i brynu ei gyplysu â diddymu cyllid gan Lywodraeth Thatcher i gynghorau allu adeiladu tai cymdeithasol. Cyfyngodd hyn ar y cyflenwad o gartrefi, gan godi prisiau er mwyn creu cymaint o elw â phosibl i'r rhai a oedd yn ddigon ffodus i fod yn berchen ar ased, a phrisio cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth allan o sicrwydd tai wrth wneud hynny. Nid oes angen adfer yr hawl i brynu. Yr hyn yr hoffwn ei weld yn lle hynny yw hawl i rentu. Byddai cynllun hawl i rentu yn caniatáu i berchnogion cartrefi werthu eu heiddo i'w cynghorau lleol a fyddai wedyn yn rhentu'r tai hynny yn ôl iddynt ar rent cymdeithasol. Byddai hyn yn cynyddu'r stoc o dai cymdeithasol gan warchod pobl ar yr un pryd rhag bygythiad adfeddu morgeisi a throi allan. Un o sgil-effeithiau'r cynllun hawl i rentu fyddai cynnydd mewn datblygiadau cymysg, gyda chynghorau lleol yn cymryd perchnogaeth ar gartrefi mewn ystadau tai nad ydynt yn eiddo i'r cyngor. Mae cynghorau'n mynd ar drywydd datblygiadau cymysg fwyfwy am eu bod yn adeiladu ymdeimlad o undod cymdeithasol ymhlith cymunedau cymysg. Byddai hawl i rentu yn hybu datblygiadau cymysg yng Nghymru.
Sylwaf fod y Ceidwadwyr Cymreig, yn y cynnig, hefyd yn galw am roi'r gorau i'r cynlluniau ar gyfer cwmni adeiladu cenedlaethol a chefnogi twf y sector adeiladu cartrefi preifat. Unwaith eto, mae hyn yn dangos anallu gwirioneddol i ddeall yr argyfwng tai. Prif gymhelliad y sector adeiladu cartrefi preifat yw gwneud cymaint â phosibl o elw i gyfranddalwyr. Mae hyn yn arwain at y sefyllfa annerbyniol a welir yn rheolaidd ledled Cymru a'r DU heddiw lle mae cwmnïau tai preifat yn ymwrthod â'u rhwymedigaethau i ddarparu tai fforddiadwy digonol drwy fygwth peidio â datblygu'r tir. Yr un cwmnïau preifat sydd wedyn yn talu taliadau bonws mawr i'w cyfranddalwyr a'u prif swyddogion gweithredol. Un o sgil-effeithiau eraill y system hon yw bod y tir glas ei hun yn dod yn ased arall i wneud arian yn gyflym ohono gyda thirfeddianwyr yn gallu elwa o werthiannau tir hapfasnachol.
Heb os, yr argyfwng tai yw un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu Llywodraethau'r Deyrnas Unedig. Mae pobl sy'n gweithio a phobl ifanc yn teimlo effeithiau'r argyfwng yn fwy llym. Rwy'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr Cymreig am ddweud mor gyhoeddus wrth etholwyr Cymru heddiw nad oes ganddynt unrhyw atebion o gwbl i'r argyfwng hwnnw. Y cyfan y gallant ei gynnig i'r cyhoedd yng Nghymru yw mwy o breifateiddio, cynyddu prisiau tai, landlordiaeth ac elw preifat. Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Mark, nid wyf yn derbyn ymyriad gennych oherwydd rwy'n anghytuno'n llwyr â'r cyfan yr ydych wedi bod yn ei ddweud ar hyd yr amser—[Torri ar draws.]
Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel a sefydlu—[Torri ar draws.]