Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 9 Mawrth 2022.
Mae nifer y cartrefi ar gyfer y farchnad sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru yn parhau i gyd-fynd yn fras â'n hamcangyfrifon o'r angen a'r galw am dai. Felly, mae hyn yn awgrymu ein bod yn adeiladu tua'r nifer angenrheidiol. Ond mae'n rhaid inni gydnabod nad ydynt bob amser yn cael eu hadeiladu yn y mannau iawn, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn gweithio arno. Ac mae'n sicr fod angen inni adeiladu mwy o gartrefi cymdeithasol i'w gosod ar rent yng Nghymru, ac rydym wedi gwneud ymrwymiad clir i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w gosod ar rent fforddiadwy.
Mae ein targed yn mynd y tu hwnt i amcangyfrifon o'r angen am dai, ac mae'n iawn ei fod yn gwneud hynny. Bydd hefyd yn adeiladu ar y sylfeini cadarn a osodwyd yn ystod tymor diwethaf ein Llywodraeth ar gyfer adeiladu cartrefi ar gyfer y dyfodol—cartrefi sy'n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd ac wedi'u hadeiladu'n dda. Fel Llywodraeth, rydym yn falch o'r camau a gymerwyd gennym yn nhymor diwethaf y Senedd i ddiogelu'r stoc tai cymdeithasol bresennol ac i adeiladu cartrefi newydd. Gwnaethom ragori ar y targed a osodwyd gennym i adeiladu 20,000 o gartrefi, gan ddarparu 23,061 o gartrefi mewn gwirionedd. Ac yn wahanol i Loegr, daethom â'r hawl i brynu i ben, i roi hyder i landlordiaid fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd heb ofni y cânt eu gwerthu o dan eu traed o fewn amser byr, ac nid yw'n rhywbeth y bwriadwn ei adfer.
Ond er mai tai cymdeithasol yw'r flaenoriaeth, byddwn yn sicrhau bod datblygiadau'n darparu deiliadaeth wirioneddol gymysg ar draws y sbectrwm cyfan o ddeiliadaethau, o eiddo perchen-feddianwyr a rhanberchenogaeth i gartrefi'r sector cymdeithasol i'w gosod ar rent y gall pobl ei fforddio. Ac rydym wedi dweud yn glir fod ein cefnogaeth i dai ar gyfer y farchnad yn rhan bwysig o'n pecyn, ond ei fod yn ychwanegol at ein cefnogaeth i dai cymdeithasol. Ac mae'r targed hwn yn heriol, a gallai sawl ffactor effeithio ar ei gyflawniad, yn cynnwys costau uwch deunyddiau adeiladu a chadwyn gyflenwi hirach ar gyfer nifer o ddeunyddiau adeiladu a fewnforir.
Rwy'n falch o ddweud ein bod wedi gweithio, ac yn parhau i weithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, awdurdodau lleol a chontractwyr i liniaru'r risgiau hyn, ac rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i helpu i gyflawni'r cynnydd digynsail yng nghostau deunyddiau. Yn wir, i gyd-fynd â'n hymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w gosod ar rent, rydym wedi neilltuo cyllideb fwy nag erioed o £250 miliwn ar gyfer y grant tai cymdeithasol y flwyddyn ariannol hon, gan ddyblu'r gyllideb o'r flwyddyn flaenorol. Ac mae ein cyllideb tair blynedd derfynol, a gyhoeddwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi, yn tanategu hyn gyda'r lefelau uchaf erioed o ddyraniadau cyllid gwerth £310 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, £330 miliwn yn 2023-24, a £325 miliwn yn 2024-25. Nawr, rydym yn dibynnu ar bartneriaid tai cymdeithasol i ddarparu'r cartrefi sydd eu hangen ar Gymru, a safonau y gallwn fod yn falch ohonynt, ac rwyf am adeiladu ar y cysylltiadau gwaith cryf sydd wedi ffynnu o dan ein hymrwymiad ar y cyd i ddarparu tai cymdeithasol yn nau dymor diwethaf y Senedd, ac mae trafodaethau'n mynd rhagddynt ar gwblhau cytundeb teiran—y cytundeb tai—gyda chyrff sy'n cynrychioli'r sector i gefnogi ein targed uchelgeisiol.
Fel y gwyddom i gyd, mae tai'n faes amlweddog, ac rydym yn rhoi nifer o gamau ehangach ar waith i gefnogi'r gwaith o adeiladu tai yng Nghymru. Drwy ein cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, rydym wedi cadarnhau ein huchelgais i sefydlu cwmni adeiladu cenedlaethol, Unnos, i gynorthwyo ein cynghorau a'n landlordiaid cymdeithasol i wella'r cyflenwad o dai cymdeithasol a thai fforddiadwy. Ac rydym hefyd wedi ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyn ar gynigion rhenti teg a hawl i dai digonol. Rydym yn cydnabod y ceir achosion lle nad yw rheoli rhenti wedi gweithio fel y bwriadwyd. Wrth gwrs, mae angen ystyried cynigion rheoli rhenti'n ofalus iawn a sicrhau yr ymgynghorir yn eang ar unrhyw gynigion, a byddwn yn ymgysylltu'n llawn â phartneriaid ar y Papur Gwyn yn ddiweddarach yn nhymor y Senedd.
Gweithredwyd yn gyflym hefyd yn unol â'n dull tair rhan o ymdrin ag ail gartrefi—trethiant, newid system a chymorth ymarferol. Rydym wedi cyhoeddi'r newidiadau y bwriadwn eu gwneud i derfynau uchaf premiymau treth gyngor dewisol ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor, maes y tynnodd Aelodau sylw ato'n briodol fel un sy'n peri pryder i bob un ohonom, yn ogystal â'r trothwyon ar gyfer ardrethi annomestig. Bydd y rhain yn helpu i sicrhau y gwneir cyfraniad teg trwy drethiant, ac ar gyfer llety gwyliau—eu bod yn gwneud cyfraniad clir i'w heconomïau lleol.
Daeth ein hymgynghoriad ar gynigion arloesol ar gyfer y system gynllunio i ben yn ddiweddar, gan ddenu cyfradd ymateb eithriadol o fawr, fel y gwnaeth yr ymgynghoriad ar gynllun tai cymunedau Cymraeg eu hiaith. Ac rydym hefyd yn ymgynghori ar amrywio'r dreth trafodiadau tir yn lleol—gyda'n gilydd, pecyn beiddgar a radical sy'n addo sicrhau newid pellgyrhaeddol.
Dros y naw mis diwethaf, Ddirprwy Lywydd, credaf ein bod ni fel Llywodraeth wedi dangos ein hawydd i roi camau clir ar waith i fynd i'r afael ag un o'r problemau mwyaf a wynebwn yma yng Nghymru. Ac er ein bod yn gwrthod cynnig yr wrthblaid Geidwadol, rydym yn wirioneddol agored i weithio gydag Aelodau ar draws y Senedd i ddarparu cartrefi y mae pobl Cymru eu hangen ac yn eu haeddu. Diolch.