Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 15 Mawrth 2022.
Bydd fy nghyd-Aelodau'n gwybod am fy ymrwymiad personol ac ymrwymiad y Llywodraeth hon i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Rydym ni i gyd yn elwa ar gydweithio fel Llywodraeth, undebau llafur a chyflogwyr i sicrhau gwell canlyniadau mewn addysg, yn y gweithle ac fel cymdeithas. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn cyflwyno Bil yn ddiweddarach eleni, ac rwy'n dymuno cadarnhau y bydd dyletswydd y bartneriaeth gymdeithasol, fel sydd wedi ei nodi yn y Bil drafft hwnnw, yn berthnasol i'r comisiwn gan y bydd yn gorff sy'n ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwy’n cytuno â'r bwriad y tu ôl i argymhelliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar bartneriaeth gymdeithasol, ac yn archwilio'r mater hwn ymhellach wrth hefyd ystyried darpariaethau disgwyliedig y Bil partneriaeth gymdeithasol sydd ar y gweill.
Mae amrywiaeth o argymhellion mewn cysylltiad ag ymchwil. Rwyf i eisoes wedi nodi fy mwriad i gyflwyno gwelliannau i gynyddu amlygrwydd ymchwil ar wyneb y Bil, gan gynnwys drwy welliannau i'r dyletswyddau strategol. O ran y datganiad o flaenoriaethau a chynllun strategol y comisiwn, mae arnaf i ofn nad wyf i’n derbyn yr argymhelliad i wneud y gwaith o ddatblygu'r datganiad o flaenoriaethau yn destun dyletswydd ymgynghori statudol, ac mae hynny am y rheswm hwn: bydd y blaenoriaethau yr ydym yn bwriadu i gael eu nodi yn y datganiad sydd i'w gyhoeddi o dan adran 11 yn rhai lefel uchel a strategol, ac ni fyddan nhw, yn fy marn i, yn addas ar gyfer ymgynghori. Fodd bynnag, rwyf i yn ystyried yr argymhelliad o ran gallu Gweinidogion Cymru i addasu cynllun strategol y comisiwn, a byddaf yn ystyried a ddylid cyflwyno gwelliant.
O ran yr argymhellion ar aelodaeth a swyddogaethau'r bwrdd, rwy’n gwerthfawrogi'r achos sy'n cael ei wneud. Fodd bynnag, yn fy marn i, nid yw'n rhoi digon o bwys ar y mater o osgoi gwrthdaro buddiannau posibl, gwahanu gweithgareddau a chynnal annibyniaeth undebau llafur, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a chyrff sy'n cynrychioli dysgwyr. Wrth sefydlu aelodaeth gref o'r bwrdd cynghori, rydym yn mynd ymhellach na llawer o'r strwythurau presennol. Er ein bod, wrth gwrs, wedi gwrando ar y cyfeiriadau a wnaed at strwythurau llywodraethu darparwyr unigol, nid wyf i'n credu y dylai hyn fod yn dempled ar gyfer bwrdd comisiwn rheoleiddio ac ariannu cenedlaethol, gan fod ganddo gylch gwaith sylfaenol wahanol. Fel y gŵyr fy nghyd-Aelodau, mae materion pwysig ymreolaeth sefydliadol a rhyddid academaidd yn cael eu trafod, yn ddealladwy, pryd bynnag y bydd deddfwriaeth addysg drydyddol yn cael ei chyflwyno. Mae'r Bil yn cynnwys nifer o ddarpariaethau sy'n cydnabod ymreolaeth sefydledig sefydliadau. Fodd bynnag, rwy’n nodi barn y pwyllgor a'r rhanddeiliaid, ac yn archwilio opsiynau ar gyfer hyd yn oed mwy o ddarpariaeth yn y maes hwn.
Gan symud ymlaen i gofrestru, ac mewn ymateb i'r ymholiad a godwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, mae cofrestru'n hollbwysig o ran darparwyr addysg uwch gan mai dim ond cyfran fach o'u cyllid maen nhw’n ei chael bellach ar ffurf grantiau rheolaidd y gellid cymhwyso telerau ac amodau iddyn nhw. Daw'r rhan fwyaf o'u cyllid cyhoeddus o gymorth i fyfyrwyr. Pe bai'r gofrestr yn cael ei dileu, ni fyddai'r comisiwn yn gallu rheoleiddio'r darparwyr hyn yn effeithiol oherwydd y ddibyniaeth bennaf hon ar gymorth i fyfyrwyr yn hytrach na grantiau comisiwn. Byddai'r Bil wedyn yn methu â chyflawni nifer o'i amcanion allweddol. O ran argymhellion y pwyllgorau ynghylch cynyddu tryloywder yn ymwneud â phenderfyniadau ariannu'r comisiwn, rwyf i eisoes yn ystyried sut y gellir mireinio'r Bil ymhellach yn y maes hwn.
Gan droi at argymhelliad 29 y pwyllgor Plant a Phobl Ifanc mewn cysylltiad â'r chweched dosbarth, hoffwn i dynnu sylw at y ffaith bod y Bil eisoes yn ychwanegu amddiffyniadau ychwanegol pellach drwy'r ddyletswydd strategol a osodir ar y comisiwn i hyrwyddo addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd yn berthnasol i'r comisiwn wrth gyflawni ei swyddogaethau ar draws y sector ôl-16, gan gynnwys unrhyw ystyriaethau mewn cysylltiad â darpariaeth chweched dosbarth ysgolion a gynhelir. Yn ogystal, mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r cod statudol ar gyfer trefniadaeth ysgolion hefyd yn cynnwys amddiffyniadau a mesurau diogelu perthnasol i sicrhau bod darpariaeth Gymraeg a darpariaeth gan ysgolion ffydd yn cael eu hystyried yn briodol mewn unrhyw gynigion a gyflwynir ar gyfer ad-drefnu. Hefyd, mae pwerau ymyrryd gweinidogol presennol yn parhau i fod ar waith. Felly, nid wyf i o'r farn bod angen gwelliannau pellach i'r Bil, ac rwyf i o'r farn bod y darpariaethau presennol yn darparu ar gyfer yr amddiffyniadau y mae'r pwyllgor yn gofyn amdanyn nhw yn yr argymhelliad hwn.
O ran yr argymhellion mewn cysylltiad â'r pŵer i ddiddymu corfforaethau addysg uwch, rwyf i wedi nodi cryfder teimladau rhanddeiliaid a byddaf yn cyflwyno gwelliannau i'r darpariaethau hyn i fynd i'r afael â'r pryderon hyn. Rwy’n nodi’r argymhellion mewn cysylltiad ag adran 105 o'r Bil, sy'n gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chydsyniad i gyrff sy'n cydweithio. Rwyf i eisoes yn archwilio opsiynau ar gyfer gwelliannau i wella'r darpariaethau hyn. Mae'r pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi gwneud amrywiaeth o argymhellion ynghylch gweithdrefnau arfaethedig y Senedd ar gyfer arfer pwerau dirprwyedig yn y Bil. Er na fu'n bosibl i mi dderbyn holl argymhellion y pwyllgor yn llawn, byddaf yn cyflwyno gwelliannau mewn ymateb i argymhellion 12, 13 a 15.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, gan droi at y Pwyllgor Cyllid, bydd yr asesiad o effaith rheoleiddiol yn cael ei ddiweddaru yn unol â'r weithdrefn safonol ar ôl Cyfnod 2 gyda'r wybodaeth ddiweddaraf, ac yng ngoleuni argymhellion y pwyllgor. Nid wyf yn rhagweld unrhyw newidiadau sylweddol i'r ffigurau cyffredinol yn yr Asesiad o Effaith Rheoleiddiol, gan nad yw niferoedd staff disgwyliedig y comisiwn, prif sbardun y gost gyffredinol, wedi newid ers mis Tachwedd. Rwy’n cydnabod awydd y pwyllgor i archwilio'r asesiad o effaith rheoleiddiol wedi ei ddiweddaru. Felly, byddaf yn rhannu copi â'r pwyllgor cyn gynted â phosibl ar ôl Cyfnod 2, i roi cyfle i'r pwyllgor ystyried yr wybodaeth ddiweddaraf a gofyn unrhyw gwestiynau dilynol cyn Cyfnod 3. Er fy mod i'n cydnabod y bwriad y tu ôl i argymhelliad y pwyllgor o ran costau i gyrff eraill, mae arnaf i ofn na allaf dderbyn yr argymhelliad hwn. Ni fu'n bosibl mesur unrhyw gostau ychwanegol posibl i gyrff eraill, gan y bydd hyn yn dibynnu ar benderfyniadau a wnaed gan y comisiwn ar ôl iddo gaiff ei sefydlu. Byddai unrhyw ragdybiaethau neu amcangyfrifon a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn achub y blaen ar y penderfyniadau hyn ac ni fydden nhw'n darparu ar gyfer amcangyfrifon cywir o unrhyw gostau posibl.
I gloi, Dirprwy Lywydd, mae'r Bil hwn yn sefydlu'r comisiwn fel y stiward cenedlaethol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil, a fydd yn gyfrifol am ei ariannu, ei oruchwylio a'i ansawdd. Bydd y comisiwn yn edrych ar y system gyfan, gan gefnogi dysgwyr drwy gydol eu hoes i ddysgu'r wybodaeth a'r sgiliau i lwyddo a sicrhau darparwyr sy'n gryf, yn annibynnol ac yn amrywiol, ac sy'n gwneud cyfraniadau sylweddol i les a ffyniant cenedlaethol. Rwy’n annog yr Aelodau i gytuno ar egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol y Bil heddiw.