Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 15 Mawrth 2022.
Gan droi, Dirprwy Lywydd, at y mater pwysig hwnnw o lais y dysgwr, mae cyflwyno cod ymgysylltu â dysgwyr yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr fynd i'r afael â sut y byddan nhw'n cynnwys dysgwyr mewn penderfyniadau ar bob agwedd sy'n ymwneud â'u dysgu ac â'u diddordebau a'u pryderon. Mae'r pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi gwneud pwynt cryf ynghylch sut y gallem ni fynd gam ymhellach o ran cynnwys pwysigrwydd barn dysgwyr yn ein dyletswyddau strategol, a byddaf yn cyflwyno gwelliant i'r perwyl hwn.