Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 15 Mawrth 2022.
Rwy'n falch o gyfrannu i'r ddadl ar ran Plaid Cymru a hefyd fel aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac rwy'n falch o nodi bod Plaid Cymru a rhanddeiliaid yn gefnogol ar y cyfan i'r Bil hwn, er y nododd pawb a oedd yn gysylltiedig â'r broses graffu feysydd i'w diwygio. Ond hoffwn adleisio'r diolch i'r Gweinidog am y modd agored y mae e wedi cydweithio ac ymateb i'r adborth a'r argymhellion.
Hoffwn ffocysu, fodd bynnag, ar rai meysydd penodol yma ble mae Plaid Cymru yn credu bod angen diwygio pellach. Y cyntaf yw'r dyletswydd strategol i hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Rwy'n falch o glywed gan y Gweinidog y prynhawn yma ei fod yn cydnabod bod argymhelliad y pwyllgor ynglŷn â'r ddyletswydd strategol i hyrwyddo addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg yn argyhoeddiadol, a'i fod am ymateb i'r pryderon a godwyd gan randdeiliaid.
Croesawyd y ddyletswydd, wrth reswm, ond roedd pryderon dilys ynghylch geiriad y ddyletswydd a'r defnydd o'r term 'galw rhesymol' mewn perthynas â darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Codwyd cwestiynau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r diweddar Gomisiynydd y Gymraeg am fod y term yn wan, wedi dyddio a bod angen ei gryfhau, ac y byddai'r cysyniad o alw rhesymol yn arwain at ddiffyg cynnydd. Er bod y Gweinidog wedi dweud ei fod am i'r comisiwn ymateb i alw rhesymol, sy'n mynd y tu hwnt i gwrdd â'r galw yn unig, a sôn ei fod am wthio lefel y ddarpariaeth, edrychaf ymlaen at drafodaethau pellach yn ystod Cyfnod 2 ar fanylder adlewyrchu hyn mewn termau ymarferol yn y Bil, er mwyn sicrhau geiriad sy'n gydnaws â llythyren ac ysbryd uchelgais 'Cymraeg 2050'.
Un o'r agweddau ar y Bil fel y mae sydd efallai wedi achosi'r pryder mwyaf ymysg rhanddeiliaid yw'r un sy'n ymwneud â dosbarthiadau chwech. Bydd y comisiwn yn gallu rhoi cyfarwyddyd mewn rai amgylchiadau fod chweched dosbarth mewn ysgolion yn cael eu sefydlu neu eu terfynu. Roedd llawer o randdeiliaid yn pryderu y gallai'r cyfrifoldebau hyn arwain at ddileu atebolrwydd lleol am yr elfen unigryw hon o'r ddarpariaeth addysg, gan danseilio rôl awdurdodau lleol a'u hysgolion fel darparwyr addysg drydyddol.
At hynny, dywedodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac eraill mai chweched dosbarth mewn llawer o ardaloedd yw'r unig le y gall dysgwyr ôl-16 gael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg cyflawn. Galwyd am sicrhau o fewn y Bil fod ystyriaeth o'r effaith ar yr iaith yn lleol ac effaith ar gyflawni strategaeth 'Cymraeg 2050', bod hynny o fewn y Bil. Rwy'n clywed yr hyn sy'n cael ei ddweud am ddibynnu ar ddarpariaethau presennol o fewn a thu hwnt i'r Bil i warchod yr elfen ganolog hon o addysg Gymraeg a strategaeth y Gymraeg. Fodd bynnag, ble mae'n dod at fater y Gymraeg, mae angen yr amddiffyniad mwyaf clir, y strwythur deddfwriaethol mwyaf cadarn, y cynsail mwyaf amlwg, y nod mwyaf digamsyniol. O dderbyn yr egwyddorion cyffredinol heddiw, bydd cyfle pellach yn ystod Cyfnod 2 i roi sylw manylach i'r angen am welliannau pellach i'r Bil i'r cyfeiriad yma, gobeithio.
Gan symud ymlaen wedyn at berthynas y comisiwn â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae'r coleg wedi nodi dyletswyddau'r comisiwn mewn perthynas â'r Gymraeg a dweud bod y rhan fwyaf o'r dyletswyddau hynny o fewn cylch gwaith y coleg a bod angen mwy o eglurder ar y meysydd lle byddai cydgyfrifoldeb, gan awgrymu y byddai'n fuddiol cael mwy o gyfranogiad uniongyrchol gan y coleg mewn prosesau cynllunio a bod cyfrifoldebau ariannu wedi'u datganoli i'r coleg. Rwy'n croesawu, felly, fod y Gweinidog am gynnig mwy o eglurder yn hyn o beth, ac edrychaf ymlaen at glywed y manylion ganddo am sut y bydd y berthynas bwysig hon yn cael ei hadlewyrchu'n fwy cadarn yn y Bil.