Ynni Adnewyddadwy

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 15 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:37, 15 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo prosiectau ynni adnewyddadwy ar draws amrywiaeth o dechnolegau a graddfeydd, gan gynnwys drwy'r rhaglen ynni môr. Ein blaenoriaeth yw cadw cyfoeth yma, yng Nghymru, ochr yn ochr â mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd byd-eang, a'n nod i Gymru yw cynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni ein hunain yn llawn o leiaf.