Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 15 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:52, 15 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae adroddiadau yn dangos bod Boris Johnson ar fin ymweld â Riyadh mewn ymgais i argyhoeddi llywodraeth Saudi i hybu cynhyrchiad olew. Credir y bydd Llywodraeth Saudi yn ceisio cael sicrwydd na fydd eu polisi yn Yemen dros yr wyth mlynedd diwethaf, o fomio sifiliaid diniwed, yn cael ei rwystro gan y DU. A ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, y byddai'n gwbl anghywir i Brif Weinidog y DU geisio dyhuddo un unbennaeth a ariennir gan arian budr er mwyn gwrthsefyll un arall? Mae'r cwestiwn hwn yn arbennig o bwysig yn y Senedd hon yng nghanol Tiger bay, sy'n gartref i gymuned Gymreig-Yemeni bumed genhedlaeth. Ac o gofio'r ymrwymiad i gydraddoldeb hiliol a gadarnhawyd gennych chi yr wythnos diwethaf, a ydych chi'n cytuno bod yn rhaid i'n cefnogaeth a'n undod â sifiliaid diniwed fod yr un fath beth bynnag fo lliw croen pobl, ble bynnag y bônt, beth bynnag fo'u cred, ac na ddylem ni gyfnewid dibyniaeth ar un lywodraeth filain am un arall, ac, os yw Boris Johnson yn mynd ar y sail yr wyf i wedi ei disgrifio, y dylem ni ei gwneud yn eglur nad yw'n gwneud hynny yn ein henw ni?