Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 15 Mawrth 2022.
Hoffwn ymateb yn benodol i'r pwynt olaf a wnaeth yr Aelod, ynghylch cyfnewid dibyniaeth ar un lywodraeth ansefydlog am ddibyniaeth ar un arall o'r un math. Ceisiais wneud y pwynt hwnnw yn fy ateb i Jayne Bryant yn gynharach, Llywydd, mai'r ateb i ddiogelwch ynni yn y Deyrnas Unedig yw canolbwyntio yn wirioneddol gyflym ac ymroddedig ar ddatblygu ynni adnewyddadwy, lle'r ydym ni mor gyfoethog. Byddai hynny yn golygu na fyddai angen i ni weld Prif Weinidog y DU yn mynd ar awyren i Riyadh, gan y byddem ni wedi creu digon o ynni o'n hadnoddau ein hunain i fod yn ddibynnol nid ar y llywodraeth yn Rwsia na llywodraethau annymunol mewn rhannau eraill o'r byd.