1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Mawrth 2022.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc? OQ57815
Ymhlith y ffyrdd y mae ein polisïau i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn cael eu datblygu mae camau ymarferol i weithredu argymhellion y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd, fel y nodir yn y cytundeb cydweithredu rhwng ein dwy blaid.
Diolch. Ddydd Mercher diwethaf yn Neuadd y Senedd, cyflwynodd End Youth Homelessness Cymru eu map ffordd i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Hoffwn ddiolch i Jane Hutt am noddi'r digwyddiad hwnnw; roedd yn hynod fewnweledol. Un o'r negeseuon i mi oedd sut y dylem ni wrando ar y bobl ifanc hynny sydd wedi profi digartrefedd ymhlith pobl ifanc wrth i ni geisio datrys y mater. Roeddwn yn falch o gyfarfod â Dafydd ac Ashleigh neithiwr i drafod y camau y gallwn ni eu cymryd fel Aelodau, a helpodd Dafydd ac Ashleigh i roi'r cwestiwn hwn at ei gilydd i chi heddiw. Eu neges i ni yw bod digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn fater i bawb ac yn fater i bawb ar draws y gymdeithas, nid mater tai yn unig. Prif Weinidog, ymrwymodd eich rhagflaenydd i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc erbyn 2027. A yw rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yn flaenoriaeth i'ch Llywodraeth chi, ac a ydych yn ffyddiog y gallwch chi roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc erbyn 2027?
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Luke Fletcher am bwysigrwydd dysgu oddi wrth bobl ifanc a phobl sy'n cael eu hunain yn y sefyllfaoedd hynod o anodd hyn, felly diolch i'r bobl ifanc yna am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mae llawer o ddigwyddiadau annisgwyl wedi digwydd ers i'r ymrwymiad gael ei wneud yn wreiddiol, gan gynnwys yr ymdrechion syfrdanol a wnaed gan ein partneriaid awdurdod lleol a'r trydydd sector yn ystod yr argyfwng coronafeirws i ddod â phobl a oedd yn ddigartref ac ar y stryd i lety sefydlog a dibynadwy.
Rwy'n cytuno yn llwyr â'r pwynt a wnaeth y bobl ifanc fod digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn fusnes i bawb ac nad yw'n fater tai ar ei ben ei hun. Nod nifer o'r prosiectau yr ydym yn eu hariannu o ganlyniad i'n gwaith gyda'r glymblaid—20 o brosiectau sy'n weithredol ledled Cymru—yw gwneud hynny'n union, er mwyn sicrhau bod tai yn ganolog i ystod lawer ehangach o wasanaethau a chydweithio â phobl ifanc i fynd i'r afael â'r materion ehangach hynny yn eu bywydau. Gallwn gynnig rhestr hir ohonyn nhw i chi, ond a wnaf i sôn am un yn unig y prynhawn yma? Mae hyn yn y gogledd, mae hyn yng Nghyngor Sir Ddinbych; mae'n brosiect rhwng y cyngor sir, Llamau—sefydliad yr wyf wedi'i adnabod drwy gydol ei hanes—a Viva, a Tŷ Pride yw hwnnw. Mae hwnnw'n wasanaeth sy'n seiliedig ar dai, ond ei nod penodol yw sicrhau bod anghenion ac amgylchiadau pobl ifanc o'r gymuned LHDTC+ yn gallu dod at ei gilydd a chael y gyfres ehangach honno o wasanaethau y mae arnyn nhw eu hangen yn y ffordd yr oedd y bobl ifanc y mae Luke Fletcher yn siarad â nhw yn awgrymu.