1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Mawrth 2022.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i groesawu a chefnogi ffoaduriaid sy'n ffoi o Wcráin? OQ57778
Llywydd, rydym yn paratoi ar frys i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin ac yn gwneud hynny drwy ddeialog agos gyda llywodraeth leol Cymru ac eraill i ddeall beth fydd yn bosibl o fewn paramedrau cynlluniau cyffredinol Llywodraeth y DU.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae Cymru'n genedl noddfa, ac mae hyn yn cynnwys croesawu'r rhai sy'n ffoi o Wcráin i fy nghymuned ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. Ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, mae trigolion wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl i gasglu rhoddion, codi arian, a hoffwn ddiolch i'r Cynghorydd Cymuned Heidi Bennett, y Cynghorydd David White a'r Parchedig Wheeler, yn arbennig, am gydlynu gwylnos leol hyfryd a phwerus ac emosiynol iawn i wrando a sefyll gyda phobl Wcráin yr wythnos diwethaf.
Prif Weinidog, mae pobl eisiau helpu a gwneud yr hyn a allan nhw, o fusnesau lleol i ddisgyblion ysgol. Dyma ein cymuned ar ei gorau. Ond rhaid i ni beidio byth ag anghofio, wrth wraidd hyn, mae pobl sydd bellach wedi dioddef trawma mawr. Gwelwn hyn ar ein sgriniau teledu, ein papurau, ein ffonau. Mae'r ymosodiad hwn wedi dychryn poblogaeth drwy'r hyn y maen nhw wedi'i brofi. Felly, Prif Weinidog, sut y bydd y gwasanaethau cyhoeddus angenrheidiol yn cael eu paratoi i helpu'r rhai yr effeithir arnyn nhw gan yr ymosodiad ar Wcráin sy'n dod i Gymru, ac a fydd darpariaeth iechyd meddwl yn cael ei hymestyn i'w cynnwys nhw?
Diolch i Sarah Murphy am hynna, Llywydd. Rwy'n tybio bod Aelodau o bob rhan o'r Senedd sydd wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau lleol a gwylnosau lleol, a oedd wedi'u trefnu'n ddigymell gan grwpiau ffydd ac eraill yn eu cymuned eu hunain. Maen nhw'n arddangosiadau ymarferol o'r haelioni y gwyddom ei fod yn cael ei arddangos ar draws ein cenedl.
O ran y pwynt penodol ynghylch sut y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu paratoi, yn fy ateb cynharach i Adam Price, Llywydd, ceisiais egluro sut, drwy weithio gyda llywodraeth leol, y gobeithiwn greu ffordd y bydd pobl sy'n dod i Gymru yn cael cyfnod cychwynnol o gymorth ac ailgyfeirio, pryd gallwn sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus hynny'n cyd-fynd â'u hanghenion, lle gallan nhw eu hunain gofrestru am gyfnod byr. Mae'n amhosibl dychmygu, onid yw, mewn gwirionedd, sut beth yw cael eich hun yn cael eich cludo ar draws cyfandir, ni waeth pa mor groesawgar fydd y cyd-destun, pan dim ond ychydig wythnosau'n ôl, roeddech yn byw bywyd hollol heddychlon heb ddychmygu bod hyn ar fin digwydd i chi. Felly, mae'n siŵr y bydd angen, oni fydd, pan fydd pobl yn cyrraedd yma, cyfnod i roi cyfle i anadlu a meddwl am yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw, a meddwl am bobl y maen nhw wedi'u gadael ar ôl ac ati. Felly, rydym yn ceisio creu ffordd i hynny ddigwydd, ac yna, gydag asesiad o'r anghenion sydd gan bobl, i sicrhau bod y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw yn cyd-fynd â nhw.
Ac ym maes iechyd meddwl, wrth gwrs mae Sarah Murphy yn llygad ei lle, Llywydd; bydd pobl yn dod i Gymru ar ôl gweld pethau anesboniadwy nad oedden nhw erioed wedi dychmygu y bydden nhw byth yn eu gweld. Rydym ni eisoes wedi dechrau paratoi ar gyfer hynny. Mae'r arbenigwyr sy'n gweithio yn ein byrddau iechyd, gan weithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid, eisoes wedi cyfieithu gwybodaeth iechyd meddwl i Wcreineg a Rwsieg y bydd y bobl hynny eu hangen i'w helpu gyda'r sefydlogi cychwynnol hwnnw. Rydym yn cyhoeddi'r wybodaeth honno ar wefan Straen Trawmatig Cymru, ac rydym yn gweithio gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion, sydd hefyd eisoes wedi cyhoeddi deunyddiau cymorth penodol i helpu pobl yn ystod y cyfnod ailsefydlu cychwynnol hwnnw. Rydym yn gweithio gyda'n llinell gymorth iechyd meddwl CALL i sicrhau bod ganddi fynediad at wasanaethau yn yr ieithoedd y bydd eu hangen. Ac mae hyn i gyd yn cael ei wneud, fel y bydd Aelodau yma'n cydnabod, o dan bwysau digwyddiadau a phwysau amser, ond mae'r pethau hynny eisoes wedi digwydd a bydd mwy y bydd arnom angen ei wneud ac yr ydym ni eisiau ei wneud i sicrhau y bydd pobl y mae angen cymorth gwasanaethau iechyd meddwl arnyn nhw yn cael hynny fel rhan o'r cynnig y byddwn ni eisiau ei gyflwyno iddyn nhw pan fyddan nhw yn cyrraedd Cymru.
Wel, wrth siarad yma bythefnos yn ôl, galwais arnoch i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i awdurdodau lleol i'w galluogi a'u hannog i gyflwyno gallu cyflymach i roi cymorth i ffoaduriaid sy'n ffoi o Wcráin. Ond wrth gwrs, er mwyn cael darpariaeth effeithiol bydd angen hefyd i awdurdodau lleol weithio gyda sefydliadau cymunedol, ac mae llawer o'r gwaith codi trwm ledled Cymru eisoes yn cael ei wneud, yn aml am geiniog a dimai, gan lu o gyrff a phartneriaethau trydydd sector a rhwng y trydydd sector ac eraill, gan gynnwys NWAMI, Networking for World Awareness of Multicultural Integration; Synergy yn sir y Fflint, a chlymblaid Tref Noddfa Wrecsam. Mae Ukrainian Friends and Families Link hefyd wedi bod mewn cysylltiad erbyn hyn. Maen nhw'n cael eu sefydlu gan dîm o weithwyr proffesiynol lleol a phartneriaeth sefydliadau'r trydydd sector ac eglwysi ar draws y gogledd, gan weithio o ganolfan ganolog yn Llandudno, i baratoi ar gyfer dyfodiad gwladolion o Wcráin ac eraill y mae'r rhyfel yn effeithio arnyn nhw a fydd yn dod i'r gogledd yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r mentrau hanfodol hyn ac yn hwyluso ymgysylltiad awdurdodau lleol â nhw?
Llywydd, mae hynny i gyd yn swnio'n galonogol iawn o ran y camau y mae Mark Isherwood wedi'u nodi sydd eisoes yn digwydd yn y gogledd. Dywedais mewn ateb cynharach fod arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yng nghyfarfod cabinet Cymru brynhawn ddoe, wedi ymuno â ni, a hefyd prif weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, y WVCA. Clywsom ganddi am y ffordd y bydd cynghorau gwirfoddol sirol lleol yn rhan o'r ymateb y byddant yn ei ysgogi, ac yn ymateb yn gadarnhaol, gobeithio, i gwestiwn yr Aelod, rydym yn chwarae ein rhan i sicrhau bod ymdrechion awdurdodau cyhoeddus ac ymdrechion grwpiau'r trydydd sector yn cyd-fynd o'r cychwyn cyntaf. Ac eto, mewn ateb cadarnhaol, Llywydd, mae'r llythyr a gefais dros nos gan Michael Gove yn cadarnhau, pan ddaw pobl i Gymru, y bydd y £10,500 y pen sydd i fynd i lywodraeth leol yn Lloegr ar gael yng Nghymru hefyd, ac y bydd y £350 y mis i unigolion ar gael i unigolion yng Nghymru sy'n gwneud y cynnig hwnnw, a bod Llywodraeth y DU yn bwriadu eithrio'r taliadau hynny rhag treth. Mae hynny'n ddefnyddiol i ni gael y cadarnhad hwnnw ar hyn o bryd er mwyn caniatáu i ni weithio gydag eraill i roi ar waith y mathau o drefniadau y mae Mark Isherwood wedi cyfeirio atyn nhw.
Rwy'n ddiolchgar i Sarah am godi'r pwnc yma heddiw. Rydym ni'n byw mewn cyfnod tywyll ar hyn o bryd, ac felly mae'n bwysig, dwi'n meddwl, i geisio chwilio am oleuni pan fo modd. Roedd adroddiad Andy Davies o Channel 4 ynglŷn â menter ffoaduriaid Affganistan yr Urdd yn dangos y goleuni yma i ni, gyda phlant a theuluoedd yn derbyn gofal cariadus a chyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd er mwyn ceisio adeiladu bywyd newydd yma yng Nghymru. Roedd sôn yn yr adroddiad, Brif Weinidog, y bydd ystyriaeth yn cael ei roi i weithredu menter debyg ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin. A fyddai modd i chi plis ddweud os ydy hyn yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried, os gwelwch yn dda, yn ogystal ag os ydy Llywodraeth Cymru yn gallu ceisio helpu’r Urdd i ledu'r ymarfer da a welwyd gyda'r fenter lwyddiannus hon gyda sefydliadau a hefyd gwledydd eraill?
Dwi'n cytuno’n llwyr gyda’r Aelod am bwysigrwydd y gwaith roedd yr Urdd wedi ei wneud yng nghyd-destun Affganistan, ac wrth gwrs, maen nhw wedi dysgu lot o bethau sy'n mynd i fod yn help i ni nawr pan ŷn ni'n trio ymateb i anghenion pobl sy'n dod o Wcráin. Bydd yr Urdd yn rhan o’r trafodaethau sy'n mynd ymlaen yn ystod yr wythnos hon. Bydd rhaid i ni feddwl am nifer o bosibiliadau i roi cymorth i bobl sy'n mynd i ddod yma i Gymru. Mae'r profiadiau y mae’r Urdd wedi’u cael, a’r ffaith bod yr Urdd mor agored i rannu y profiadau maen nhw wedi eu cael, ac i helpu pobl eraill sy'n mynd i roi help hefyd, yn rhywbeth unigryw i ni yma yng Nghymru, ond yn rhywbeth ymarferol i ni hefyd.