Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 15 Mawrth 2022.
Prif Weinidog, fel y dywedoch chi, yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Gweinidog yr Economi gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau, ac fel y byddwch chi'n ymwybodol, dwi wedi galw am gynnal archwiliad sgiliau net zero, fel y gallwn nodi'r bylchau mewn sgiliau, gwybodaeth ac adnoddau, er mwyn sicrhau ein heconomi ni ar gyfer y dyfodol. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru yn cynnal archwiliad sgiliau net zero, ac os felly, pryd y gallwn ni ddisgwyl canlyniadau archwiliad o'r fath?