1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Mawrth 2022.
3. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer polisi sgiliau yn ystod tymor y Senedd hon? OQ57808
Llywydd, ar 8 Mawrth, lansiwyd ein cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau. Mae'n amlinellu ein blaenoriaethau i helpu mwy o bobl i gael gwaith a chyflawni ymrwymiad y Llywodraeth hon i warant i bobl ifanc, yn seiliedig ar y sgiliau y bydd eu hangen yn y dyfodol.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, clywodd y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol gan y dirprwy bennaeth Sharon James am sut mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn gweithio i sicrhau bod gan Gymru'r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu yn sgil y symud i sero net. Cefais ddwy neges allweddol yn ymwneud â phwysigrwydd cydweithio ar draws yr holl bartneriaid ac ar bob lefel o hyfforddiant, o brentisiaethau i ficro-gymwysterau, a hefyd yr angen i gefnogi busnesau bach a chanolig i uwchsgilio eu gweithlu. Roedd hon yn drafodaeth amserol iawn ar ôl cyhoeddi'r cynllun gweithredu cyflogadwyedd a sgiliau, felly sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i'r afael â'r ddwy her allweddol hyn yn ei pholisi sgiliau?
Diolch i Vikki Howells am y cwestiwn atodol yna, Llywydd. Mae'n braf iawn clywed cyfeiriad at Goleg Caerdydd a'r Fro ar y diwrnod pan fyddwn yn gobeithio y bydd y Senedd yn rhoi ei chydsyniad i'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) symud i'w ail gyfnod o graffu yma yn y Senedd. Ac rwy'n cymryd y ddwy flaenoriaeth a ddeilliodd o'r drafodaeth honno gyda'u his-bennaeth o ddifrif, Llywydd. Y cyntaf o'r rheini y mae'r Aelod wedi cyfeirio ati yw'r angen am gydweithio, ac mae'r cynllun ei hun yn deillio o hanes hir o gydweithio â phartneriaid allweddol ym maes addysg, mewn llywodraeth leol a gyda chyflogwyr yn y sector preifat hefyd. Lluniwyd y cynllun gan ymgynghoriad cyhoeddus ehangach y llynedd ar ein hymrwymiad i gyflogaeth a sgiliau pobl ifanc. Ac wrth sicrhau bod y dull cydweithredol hwnnw'n cael ei roi ar waith ar lawr gwlad, mae'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol sydd gennym yma yng Nghymru mewn gwirionedd yn allweddol i ddod â'r holl bartneriaid hynny at ei gilydd i sicrhau cydlyniad a chydweithredu mewn gwahanol ardaloedd lleol.
O ran cymorth i fusnesau bach a chanolig—yr ail bwynt y cyfeiriodd Vikki Howells ato, Llywydd—efallai y gallaf gynnig un enghraifft yn unig; bydd yn enghraifft gyfarwydd, rwy'n credu, i'r Aelod dros Gwm Cynon, sef rhaglen brentisiaeth a rennir Aspire, sy'n gweithredu yng nghymunedau'r Cymoedd hynny. Rwyf wedi'i drafod o'r blaen gyda fy nghyd-Aelod Alun Davies ar lawr y Senedd, oherwydd busnesau bach a chanolig, sef sylfaen economïau lleol yno, pan nad yw un cyflogwr yn gallu cefnogi prentis llawn amser drwy'r broses gyfan, mae'r busnesau llai hynny'n gallu dod at ei gilydd a rhannu prentis. Mae dros 60 o gwmnïau'n rhan o raglen Aspire. Mae nifer fawr ohonyn nhw yn fusnesau bach a chanolig. Maen nhw'n cymryd 25 o brentisiaid bob blwyddyn, ac mae'r bobl ifanc hynny'n cael amrywiaeth o brofiadau. Maen nhw'n symud rhwng y grŵp o gyflogwyr sy'n gyfrifol am y rhaglen honno; mae'r BBaCh yn elwa ar gael rhywun, ac mae'r unigolyn yn elwa ar y gallu i ennill yr ystod ehangach honno o brofiad a sgiliau.
Prif Weinidog, fel y dywedoch chi, yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Gweinidog yr Economi gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau, ac fel y byddwch chi'n ymwybodol, dwi wedi galw am gynnal archwiliad sgiliau net zero, fel y gallwn nodi'r bylchau mewn sgiliau, gwybodaeth ac adnoddau, er mwyn sicrhau ein heconomi ni ar gyfer y dyfodol. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru yn cynnal archwiliad sgiliau net zero, ac os felly, pryd y gallwn ni ddisgwyl canlyniadau archwiliad o'r fath?
Wel, diolch yn fawr i Paul Davies am y cwestiwn pwysig yna. Cyfeiriodd Vikki Howells at bwysigrwydd net zero yn ei chwestiwn gwreiddiol hi. Rŷn ni'n cydnabod, fel Llywodraeth, dros y degawdau nesaf, er mwyn cael y sgiliau sy'n angenrheidiol i wneud beth rŷn ni eisiau ei wneud yma yng Nghymru o ran newid hinsawdd, wel, mae hynny'n ganolog i'r cynllun.
Mae'r cynllun rŷn ni wedi cyfeirio ato yn cynnwys nifer o bethau ymarferol i gynyddu'r sgiliau sydd gyda ni yma yng Nghymru, ymhlith pobl ifanc yn enwedig, ac i gael y sgiliau y mae'n rhaid inni eu cael os ydym ni'n mynd i ddod at Gymru Sero Net erbyn 2050. Nawr, rŷn ni'n gweithio gyda'r brifysgol yng Nghaerdydd i roi pethau yn eu lle, i gael yr ymchwil, i dynnu'r wybodaeth at ei gilydd, i'n helpu ni i roi yn ei le beth sydd yn rhaid inni ei roi yn ei le i fynd ar ôl y pwyntiau y mae Paul Davies wedi eu codi y prynhawn yma.