Part of the debate – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 15 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr iawn. Yn dilyn cymeradwyaeth y Senedd i gyllideb Llywodraeth Cymru, rwy'n cadarnhau heddiw y rhaglen lifogydd ar gyfer eleni. Fe fydd y pecyn ariannu yn golygu'r cynnydd mwyaf a fu erioed yn y buddsoddiad ar gyfer rheoli a lliniaru peryglon o lifogydd ac erydu arfordirol yn 2022-23 ac, yn ystod tymor y Senedd hon, fe fydd hynny'n cyflawni ein hymrwymiad ni fel caiff ei nodi yn y cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Fe ddaw hyn ar ben cyfradd o gyllid yn y flwyddyn gyfredol a oedd eisoes ar ei fwyaf hael yn ystod cyfnod datganoli, ac rydym ni'n ei ymestyn ymhellach. Fe fydd y flwyddyn sydd ar ddod yn gweld y gyfradd uchaf o gyllid a ddarparwyd erioed ar gyfer rheoli peryglon llifogydd ac erydu arfordirol.
Ni fu buddsoddi yn y maes hwn cyn bwysiced erioed. Fis diwethaf, fe gawsom ni ein hatgoffa o hynny pan drawodd tair storm fawr ledled Cymru ar ôl ei gilydd, gan effeithio ar lawer o gymunedau. Yn ffodus, ni fu'r difrod na'r amharu ar seilwaith cymaint ag y gallasai fod neu gyn waethed ag yr oeddem ni wedi ofni. Ond, fe welwyd llifogydd mewn 65 eiddo, ac roedd hwnnw'n brofiad dirdynnol a gofidus iawn i'r unigolion a'r teuluoedd dan sylw. Rwy'n ddiolchgar am gyfraniad enfawr staff mewn awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, cwmnïau dŵr, gwasanaethau brys, a wardeiniaid llifogydd cymunedol, sy'n chwarae eu rhan yn amddiffyn ein cymunedau ni gan ymateb a gweithredu mesurau i leihau'r perygl o lifogydd. Rwy'n falch fod ein buddsoddiad ni wedi helpu i leihau'r perygl o lifogydd ar gyfer dros 950 o gartrefi a busnesau ledled Cymru, gyda 3,600 arall yn elwa ar welliannau i gynlluniau presennol yn ogystal â gwaith cynnal a chadw.
Gan edrych ymlaen at 2022-23, rwy'n falch ein bod ni'n gallu cyhoeddi ein rhaglen lifogydd fwyaf erioed, sef cyfanswm o dros £71 miliwn y flwyddyn nesaf. Fe fydd y dyraniad dros dair blynedd, sy'n ymrwymiad pwysig, o dros £214 miliwn yn helpu i ddatblygu cyfres fwy pendant o gynlluniau i'r dyfodol ar gyfer amddiffyn yn erbyn llifogydd ac fe fydd hynny'n caniatáu rhag-gynllunio mwy cadarn, sy'n hollbwysig. Rydym ni wedi gofyn i awdurdodau rheoli risg barhau i weithio gyda ni i gyflymu'r broses gyflawni i sicrhau a chodi cyfradd yr amddiffyn yn erbyn llifogydd ledled Cymru.
Yn rhan o'n hymrwymiad i ni gynyddu cyllid, fe fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £24 miliwn ychwanegol yn y cyllid refeniw dros y tair blynedd nesaf hefyd. Fe fydd hyn yn caniatáu dyblu, hyd at £225,000 fesul awdurdod, o gyllid refeniw i lywodraeth leol yn y flwyddyn ariannol sydd ar ddod. Ar yr un pryd, rydym ni'n rhoi £1.5 miliwn yn ychwanegol yng nghyllideb refeniw Cyfoeth Naturiol Cymru, ac fe fyddwn ni'n gwneud rhagor o waith gyda'n partneriaid cyflawni ni i ddeall anghenion ariannu yn y dyfodol. Mae'r cyllid ychwanegol yn adlewyrchu'r gweithgareddau sydd ar waith eisoes yn unol â'n strategaeth genedlaethol ni, ein rhaglen lywodraethu ni ac ymrwymiadau yn y cytundeb cydweithredu.
Rwyf i wedi ymestyn y rhaglen genedlaethol ar gyfer rheoli risg arfordirol am un flwyddyn arall i orffen. Mae hi'n hanfodol erbyn hyn, Llywydd, fod yr awdurdodau lleol yn manteisio ar yr estyniad olaf hwn i gwblhau gwaith ar ddyluniad y cynlluniau sydd ar ôl a sicrhau bod y gwaith adeiladu yn dechrau, er enghraifft, yn Aberaeron, yng nghanol Prestatyn a bae Hirael ym Mangor cyn diwedd mis Mawrth 2023. Y rhaglen hon yw'r prif fecanwaith ar gyfer mynd i'r afael â'n hamcanion ni o ran rheoli erydu arfordirol, ar gyfer mynd i'r afael â'r heriau a nodir yn y cynlluniau rheoli traethlin, ac ar gyfer buddsoddi i sicrhau bod cymunedau arfordirol ni'n parhau i fod yn gryf yn y tymor hwy. Yn gynharach y mis hwn, fe gadarnhaodd Cyngor Sir Ddinbych fod cynllun arfordirol dwyrain y Rhyl gwerth £27 miliwn wedi cael ei gwblhau yn sir Ddinbych, ac fe ariannwyd hynny gan ein rhaglen ni, sydd wedi bod o fudd i tua 1,650 eiddo. A ddoe, fe ymwelodd fy nghyd-Aelod Julie James â chynllun arfordirol Aberafan, ac, wrth gwrs, rydym ni'n edrych ymlaen at ymweld â chynlluniau ledled Cymru dros y flwyddyn i ddod wrth iddyn nhw gael eu cyflawni.
Gan droi at gyllid cyfalaf, fe allwn ni edrych ymlaen at raglen fuddsoddi gref o gyfanswm o £34 miliwn. Heddiw, rydym ni wedi cyhoeddi manylion y cynlluniau i gyd, ynghyd â map rhyngweithiol i'r cyhoedd ac Aelodau allu edrych ar y manylion cysylltiedig. Fe ddarparwyd cyllid ar gyfer gwaith i gynllunio a datblygu cynlluniau'r dyfodol yn ogystal ag adeiladu asedau newydd. Mae rhai o'r cynlluniau yn y rhaglen adeiladu yn cynnwys gwaith yn Nhreorci, Dinas Powys, a Glyn-nedd. Drwy ein buddsoddiad cyffredinol ni, gan gynnwys y rhaglen lifogydd, fe fyddwn ni'n gwneud gwelliannau i o leiaf 14,600 eiddo eleni. Ond, nid yw cyllid cyfalaf yn ymwneud ag adeiladu asedau newydd yn unig ; mae'n cynnwys gweithgareddau i gynnal asedau presennol hefyd, a datblygu cynlluniau newydd, yn ogystal â mapio a modelu prosiectau er mwyn deall a mynegi'r perygl o lifogydd yn well. Fe fydd ein cyllid ni'n cefnogi gwaith datblygu ar 86 o gynlluniau eraill a fydd yn cyfrannu at raglenni'r dyfodol.
Y flwyddyn nesaf, fe fyddwn ni'n cynnig grantiau o 100 y cant ar gyfer yr holl waith paratoi ar gyfer cynlluniau newydd. Dim ond ar y cam adeiladu y bydd angen 15 y cant o arian cyfatebol gan yr awdurdodau lleol ac ar gyfer helpu i leihau'r arian cyfatebol hwn. Felly, rwy'n eu hannog nhw i geisio cyfraniadau oddi wrth gronfeydd partneriaethau pryd caiff manteision ehangach eu nodi.
Fe fyddwn ni hefyd yn parhau â'r grant gwaith ar raddfa fach poblogaidd ac rydym ni wedi cynyddu trothwy prosiectau unigol o dan y grant hwn i £200,000, ac rydym ni wedi dyrannu £3.8 miliwn i awdurdodau lleol ar gyfer cefnogi cynlluniau ledled Cymru, a fydd o fudd i dros 2,100 o eiddo.
Yn olaf, Llywydd, mae'r rhaglen Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn parhau ac yn ei blwyddyn olaf. Fe fydd y rhaglen hon yn ein helpu ni i ddeall rheolaeth naturiol o lifogydd a'r ffordd orau o gyflawni'r mathau hyn o gynlluniau ar gyfer cyfrannu at ein hymrwymiad ni i reoli llifogydd mewn ffyrdd naturiol. Mae'r rhaglen hon sydd o werth £3 miliwn yn cynnwys 15 o brosiectau a fydd o fudd i dros 1,100 eiddo, gan ddarparu manteision ehangach, fel gwella ansawdd y dŵr a bioamrywiaeth.
Mae ein strategaeth llifogydd genedlaethol ni'n nodi sut yr ydym ni'n gwella'r ffordd yr ydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i leihau risg ac yn dynodi cyfeiriad clir ar gyfer cyflawni ein hamcanion hirdymor ni. Ac mae'r cyfraddau uchaf erioed o fuddsoddiad yr ydym ni'n eu cyhoeddi heddiw yn adlewyrchu pwysigrwydd rheoli peryglon llifogydd yng ngolwg y Llywodraeth hon, wrth i ni wynebu'r heriau newid hinsawdd a gweithio gyda'n gilydd i addasu a pharatoi cymunedau i'r dyfodol. Diolch.