3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, Rhaglen Fuddsoddi 2022-23

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 15 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:53, 15 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog. Mae hwn, yn fy marn i, yn ddatganiad cadarnhaol. Mae croeso i'r newyddion y caiff £214 miliwn ei fuddsoddi mewn cynlluniau atal llifogydd ac erydu arfordirol dros y tair blynedd nesaf, gyda £71 miliwn i'w fuddsoddi yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Er eich bod chi wedi crybwyll mai rhan o'ch cytundeb cydweithredu yw hon, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am gyllid ychwanegol a gwell rheolaeth o ran llifogydd ac amddiffynfeydd arfordirol ers 2016. Rydych chi wedi rhoi gwybod i ni y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu i wella rhag-gynllunio, a dyna, yn fy marn i, oedd y ddau air allweddol yn eich datganiad chi. Oherwydd, yn rhy aml, mae arnaf i ofn fod y dull gweithredu gan Lywodraeth Cymru wedi bod ar sail adweithiol yn hytrach na rhagweithiol. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith yn fawr eich bod chi'n edrych ymlaen nawr at weithio gydag awdurdodau rheoli risg ar gyfer cyflymu'r broses o ddarparu a chefnogi pobl Cymru.

Yn ystod yr ymchwiliad a gynhaliwyd gennym ni i ymateb Llywodraeth Cymru i'r llifogydd ym mis Chwefror 2020, roedd adroddiad y pwyllgor yn dangos bod cyfradd y cyllid refeniw yn golygu bod yr awdurdodau ymhell iawn o fod yn gwbl barod a chydnerth. Fe dderbyniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ychydig o dan 5 y cant o'r cyllid refeniw cenedlaethol, er ei fod yn amcangyfrif bod 21 y cant o'r perygl cenedlaethol oherwydd llifogydd dŵr wyneb ganddo i'w reoli.

Nawr, wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi egluro bod dyrannu refeniw'r blynyddoedd i ddod, ar sail y perygl oherwydd llifogydd ac erydu arfordirol nawr ac yn y dyfodol, yn rhywbeth y byddech chi'n ei ystyried. Felly, mae gennyf i ychydig o gwestiynau, ond rwyf i am ddweud wrthych chi fy mod i'n croesawu eich cyhoeddiad eich bod chi am ymweld â rhai o'r cynlluniau, oherwydd mae gennym ni dri chynllun yma yn fy etholaeth i: Llanfairfechan, sydd wedi gweld difrod aruthrol i'r cob oherwydd stormydd; Bae Penrhyn, y mae cynllun newydd yno i amddiffyn rhag effeithiau'r môr; ac, yn olaf, Llandudno, pryd y rhoddodd eich Llywodraeth chi, mewn ffordd braidd yn esgeulus yn 2014, gynllun amddiffyn y môr i ni a oedd yn sylfaenol annigonol, a chael gwared ar ein tywod ni, a dodi miloedd o dunelli o glogfeini ar y traeth. Roeddech chi yno dros y penwythnos, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno—. Mae cais ger eich bron chi, ac mae pobl Llandudno, y gwleidyddion i gyd, a'r hyn yr ydym ni'n ei ddymuno yw gweld tywod ar y traeth unwaith eto. Felly, rwy'n edrych ymlaen at eich gweld chi'n ymweld â rhai cynlluniau yn yr etholaeth yma yn Aberconwy.

Fy nghwestiwn cyntaf i yw: o gofio nad oedd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gallu ateb fy nghwestiwn i'r wythnos diwethaf, a wnewch chi egluro i'r Senedd pam nad yw dyrannu refeniw yn rhoi ystyriaeth i'r perygl o lifogydd o hyd, er gwaethaf argymhelliad eglur y pwyllgor? Cwestiwn 2: a wnewch chi egluro a fydd y dyraniadau refeniw o ran llifogydd o £222,000 a gafodd ei gadarnhau ar gyfer awdurdodau lleol yn cael eu rhannu yn gyfartal rhwng pob awdurdod? Mae eich datganiad chi i'r wasg yn tynnu sylw at y rhaglen lywodraethu fel tystiolaeth eich bod chi am ganolbwyntio ar ganlyniadau sy'n helpu i wella cydnerthedd ein cymunedau ni. Felly, yn y bôn, pam mae Llywodraeth Cymru yn parhau i anghytuno â thua 6,000 o bobl a lofnododd ddeiseb yn annog Llywodraeth Cymru i gychwyn ymchwiliad llawn, annibynnol, agored a chyhoeddus i lifogydd cartrefi a busnesau yn Rhondda Cynon Taf yn 2020?

Rwy'n credu eich bod chi'n ymwybodol, Dirprwy Weinidog, ynghyd â'r Gweinidog, am fy mhryderon i o ran yr amser y mae hi'n ei gymryd ar gyfer adroddiadau adran 19, a nhw mewn gwirionedd yw'r unig bethau sydd ar gael i gymunedau pan fyddan nhw'n cael llifogydd mawr. Mae rhai wedi gorfod aros—mae awdurdodau lleol wedi gorfod aros—wyth mis am yr adroddiad, ac yn sicr, yma yn Llanrwst a Phentref, 17 mis. Mae hwnnw'n amser maith ar ôl i bobl sydd wedi gweld dinistrio eu cartrefi nhw a'u cymunedau nhw gan lifogydd. A wnewch chi ymrwymo, a hynny ar fyrder, i fynd i'r afael â'r oedi o ran llunio a chyhoeddi adroddiadau adran 19 fel bydd mesurau i liniaru effaith llifogydd yn cael eu nodi ar fwy o gyflymder? Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi ynglŷn â'r gwaith da sydd wedi bod ar ein hucheldiroedd ni—. Yn sicr, yma yn Aberconwy rydym ni wedi bod yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru i gael trefn ar y mawndiroedd fel bod mwy o ddŵr yn cael ei ddal a'i gadw yno yn ein hucheldiroedd ni er mwyn osgoi llifogydd difrifol mewn pentrefi fel Llanrwst.

Yn olaf, rwy'n nodi eich bod chi'n sôn am roi cynnydd o £1.5 miliwn yng nghyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru, ac eto mae CNC eu hunain wedi amcangyfrif y bydd angen ymhell dros 200 o staff ychwanegol i orfodi'r parthau perygl nitradau neu'r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Sut ydych chi am ystyried ailstrwythuro Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan o hynny, oherwydd rwy'n credu y byddech chi'n cytuno â mi, Dirprwy Weinidog, nad yw'n ymwneud ag arian yn unig? Rwy'n credu fy mod i wedi gofyn digon o gwestiynau i chi nawr, ac fe fyddwn i'n gwerthfawrogi eich cydnabyddiaeth o'r materion hyn a'ch ymatebion chi iddyn nhw, a diolch eto i chi am eich datganiad. Diolch, Llywydd.