4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y Strategaeth Ddigidol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 15 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 3:29, 15 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Nawr, credir bod angen sgiliau digidol ar gyfer 82 y cant o holl swyddi'r DU, ac mae ennill sgiliau digidol yn mynd yn gynyddol angenrheidiol ar gyfer galluogi pobl i fod â rhan lawn yn y gymdeithas sy'n dibynnu fwyfwy ar dechnolegau digidol. Felly, rwy'n croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Dirprwy Weinidog heddiw, a'r camau a gymerwyd ers i'r strategaeth gael ei lansio y llynedd. Wrth gwrs, mae mynd i'r afael â'r ymraniad digidol yn hanfodol o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd a chodi'r gwastad ym mhob cymuned yng Nghymru. Ceir cysylltiad annatod rhwng allgáu digidol ac anghydraddoldebau ehangach yn y gymdeithas, ac mae hi'n fwy tebygol mai rhai ar incwm isel, pobl dros 65 oed a phobl anabl a fydd yn eu hwynebu nhw. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni sut y mae Llywodraeth Cymru am fonitro effeithiolrwydd y strategaeth hon i sicrhau bod allgáu digidol yn cael sylw, ac a wnaiff roi rhai enghreifftiau penodol lle mae Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd o ganlyniad i'r strategaeth ddigidol hon i ni allu dysgu oddi wrth arfer gorau?

Mae datganiad heddiw yn cyfeirio at safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol genedlaethol, a gaiff ei datblygu drwy ymgysylltu â phobl sydd wedi'u cynnwys neu sydd wedi'u hallgáu yn ddigidol ledled Cymru er mwyn i ni allu nodi'r hyn sydd ei angen ar bobl i fod yn rhan o fyd digidol modern. Rwy'n credu bod hwn yn gam pwysig iawn ymlaen, ond efallai y gwnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am y gwaith a wnaethpwyd yn y maes hwn hyd yn hyn, a phryd y bydd yn debygol y caiff y safon ei chyhoeddi. Mae datganiad heddiw yn cadarnhau bod y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn arwain adolygiad o dirwedd y gwasanaethau cyhoeddus i roi cipolwg ar aeddfedrwydd digidol a thechnolegol y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rwy'n cytuno â'r Dirprwy Weinidog y bydd hwnnw'n bwysig iawn i helpu i flaenoriaethu gwaith dros y blynyddoedd nesaf. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni beth yw'r rhagolygon o ran amser sy'n gysylltiedig â'r adolygiad hwn, a phryd y cawn ni weld yr hyn a ddaw ohono?

Mae datganiad heddiw yn iawn i fynegi bod cysylltedd digidol yn sail i'r strategaeth ddigidol. A minnau'n un sy'n cynrychioli ardal wledig, fe wn i pa mor bwysig yw bod â band eang sy'n ddigonol ar gyfer eich defnydd chi ohono. Gyda'r newid tuag at weithio o gartref a gweithio hybrid, mae trigolion a busnesau mewn ardaloedd fel Powys neu sir Benfro, er enghraifft, yn wynebu anfantais arbennig, nid yn unig o ran cyfleoedd yn y farchnad lafur, ond hefyd o ran gallu rhedeg busnes yn gystadleuol. Felly, efallai y gwnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni sut y mae'n ymgysylltu â sectorau fel y sector ffermio, a'u cadwyni cyflenwi nhw, i sicrhau bod yr offer a'r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw ar gael er mwyn bod mor gystadleuol â phosibl yn y dyfodol.

Mae'r Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at Brosiect Gigabit, ac rwy'n cytuno ei bod hi'n hanfodol i Gymru fod â'i chyfran deg o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU. Rwy'n sylweddoli na chafodd telathrebu ei ddatganoli i Gymru, ond rwy'n falch bod trafodaethau'n digwydd ynghylch sut y caiff buddsoddiad ei roi yn y dyfodol, a swyddogaeth Llywodraeth Cymru o ran cyflawniadau'r buddsoddiad hwnnw. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymuno â mi i groesawu'r hwb ariannol diweddar o £11.5 miliwn i wella band eang ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn y gogledd, y de-ddwyrain, sir Benfro ac ardaloedd gwledig Cymru. Mae'r cyllid hwnnw eisoes wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i sefydliadau fel Canolfan Gweithgareddau Cymdeithasol Ancorage, canolfan ddydd yn Noc Penfro sy'n gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu neu ddementia, a llyfrgell Aberdaugleddau, yn wir, yn fy etholaeth i. Mae hi'n hanfodol bod cysylltiadau rhynglywodraethol yn effeithiol, a bod adrannau yn cydweithio i sicrhau na chaiff Cymru ei gadael ar ôl. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Dirprwy Weinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau arbennig hynny a sut y maen nhw'n datblygu.

Rwy'n falch fod datganiad heddiw yn cydnabod yr her sy'n wynebu Cymru o ran prinder sgiliau, ac rwy'n deall fod cyrff y sector cyhoeddus yn chwilio am sgiliau mewn marchnad lafur hynod gystadleuol. Mae sgiliau digidol wedi mynd yn gynyddol bwysig o ran cael gwaith o ansawdd uchel. Fe wyddom ni fod y rhai sy'n chwilio am waith sydd â sgiliau digidol yn ennill cyflogau uwch a bod swyddi sy'n gofyn am sgiliau digidol yn talu 29 y cant yn fwy na'r swyddi nad ydyn nhw'n gwneud hynny. Felly, fe fydd mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau digidol yn hanfodol ar gyfer caniatáu pobl i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer gweithio mewn byd digidol, a sicrhau y gall pawb elwa ar y cyfleoedd y gall arloesi digidol a buddsoddi mewn seilwaith eu cynnig.

Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd Gweinidog yr Economi gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau, ac nid oedd unrhyw sôn am y strategaeth ddigidol. Felly, efallai y gwnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni sut y mae'r strategaeth hon yn gweithio ochr yn ochr â strategaethau ehangach Llywodraeth Cymru ynghylch cyflogadwyedd a sgiliau. Efallai y gwnaiff ddweud wrthym ni faint o gyllid sy'n cael ei ddyrannu i ddarparwyr sgiliau ledled Cymru i helpu i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau digidol. Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i ni fanteisio yn llawn ar botensial cyfan yr agenda ddigidol drwy fynd i'r afael â'r cyfraddau o allgáu digidol, a sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar y cyfleoedd a'r gwasanaethau a ddarperir gan dechnolegau digidol. Felly, rwy'n croesawu diweddariad Llywodraeth Cymru, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Dirprwy Weinidog i sicrhau bod cymunedau yn profi'r canlyniadau hynny ym mhob rhan o Gymru.