Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 15 Mawrth 2022.
Mae'r pwyllgor yn croesawu'r cynnydd i'r dyraniadau a ddarperir gan y gyllideb atodol hon, yn ogystal â'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i liniaru effeithiau'r heriau economaidd anodd yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Cafodd adroddiad y pwyllgor ei ddwyn gerbron y Senedd ddoe, ac, fel y clywsom gan y Gweinidog yn awr, fe wnaethom 11 o argymhellion.
Hoffwn ddechrau drwy gefnogi ymdrechion y Gweinidog. Mae'r pwyllgor yn credu'n gryf mai dim ond pan roddir gwybodaeth gywir i Lywodraeth Cymru am y cyllid y mae'n ei gael gan y Trysorlys y gellir rheoli cyllidebau'n dda. Yn anffodus, mae hon yn broblem sy'n codi dro ar ôl tro, felly rydym ni wedi ein siomi bod y mater hwn yn parhau ac nad oes unrhyw welliannau wedi eu gwneud. Felly, rydym yn rhannu barn y Gweinidog bod angen mwy o eglurder gan y Trysorlys am faint o arian a gafwyd o fewn blynyddoedd ariannol, yn ogystal ag amseriad trosglwyddiadau o'r fath. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn derbyn nad yw'n ddigon pwyntio bys at Lywodraeth y DU yn unig; gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy yn y maes hwn hefyd. Dyna pam mae'r pwyllgor yn ailadrodd galwadau ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei chyfrifiadau ei hun ar symiau canlyniadol yn ystod y flwyddyn a throsglwyddiadau y mae'n disgwyl eu cael gan Lywodraeth y DU. Byddai hyn yn sicrhau bod unrhyw drosglwyddiadau cyllid yn cael eu cyfrifo yn unol â'r fethodoleg y cytunwyd arni, ac mae'n arbennig o bwysig pan fydd ffigurau gwahanol yn cael eu dyfynnu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, fel sydd wedi digwydd yn ddiweddar.
Mae rheoli'r gyllideb yn effeithiol ar draws blynyddoedd ariannol hefyd yn gofyn am hyblygrwydd. Yn flaenorol, mae'r Trysorlys wedi rhoi blwyddyn lawn i Lywodraeth Cymru wario unrhyw arian a dderbyniwyd yn hwyr yn y flwyddyn ariannol. Roedd y pwyllgor felly wedi ei siomi na chafodd hyn ei ganiatáu eleni, ac mae'n cefnogi galwadau i hyn gael ei ddarparu fel mater o drefn, fel y gall Llywodraeth Cymru ddyrannu cyllidebau'n strategol heb fod ofn colli cyllid.
Gan droi at y materion penodol, mae'r Gweinidog, a hynny'n gwbl briodol, wedi blaenoriaethu ymdrechion i gefnogi'r rhai hynny y mae'r argyfwng costau byw wedi effeithio arnyn nhw drwy'r gyllideb atodol hon. Fel Cadeirydd, rwyf i wedi pwysleisio o'r blaen yn y Siambr hon fod datblygu polisi 'dim drws anghywir' yn hanfodol, fel bod cymorth ariannol yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf. Nid oes angen atgoffa'r Aelodau bod aelwydydd yn ei chael hi’n fwyfwy anodd cael dau ben llinyn ynghyd, ac y bydd galw cynyddol, yn anffodus, am gymorth dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Felly, mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi proffiliau grantiau a chynlluniau sydd wedi eu llunio i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, ac mae'n ailadrodd ei alwad am ddatblygu system integredig o gymorth mewn ymateb i'r pwysau ariannol y mae llawer o aelwydydd yn ei ddioddef.
Wrth i ni barhau i adfer yn dilyn y pandemig, mae'r pwyllgor yn croesawu'n fawr yr arian ychwanegol sy’n cael ei ddyrannu i'r gwasanaeth iechyd drwy'r gyllideb atodol hon. Er ei bod yn galonogol clywed gan y Gweinidog bod yr arian ychwanegol hwn eisoes yn cael effaith, yn enwedig ar amseroedd aros, roedd manylion gwirioneddol yn brin. Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi ei thargedau ar gyfer lleihau amseroedd aros yn ei dogfennau cyllideb o hyn ymlaen, gan gynnwys y canlyniadau a'r effeithiau a ddisgwylir o'r cyllid ychwanegol i’r GIG.
Yng nghanol y pandemig, mae'n rhaid i ni beidio ag anghofio bod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn parhau i wynebu pwysau na welwyd eu tebyg o'r blaen, a bod angen rhagor o fesurau i gydnabod gwaith gwych ein gweithlu gofal cymdeithasol a chymryd camau i wneud y proffesiwn yn fwy deniadol. Mae'r pwyllgor yn croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru i wobrwyo gweithwyr gofal yn ariannol, fodd bynnag, rydym yn credu y gellir gwneud mwy i hyrwyddo'r cymorth ariannol sydd ar gael i bob gofalwr, ond yn enwedig gofalwyr di-dâl a'r rhai sy'n gweithio mewn hosbisau.
O ran trafnidiaeth, mae'r pwyllgor yn nodi bod colli refeniw a achoswyd gan y pandemig wedi effeithio'n ddifrifol ar wasanaethau bysiau a threnau ac mae'n croesawu'r cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i gefnogi parhad y gwasanaethau allweddol hyn. Fodd bynnag, nid oedd y pwyllgor wedi ei argyhoeddi bod y £22 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd ar gyfer gwasanaethau bysiau yn ddigonol, ac mae'n gofyn i'r Gweinidog roi rhagor o wybodaeth am sut y penderfynwyd ar y swm hwn, yn ogystal â'r amcanion a'r canlyniadau disgwyliedig ar gyfer y cyllid hwn.