6. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2021-22

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 15 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 4:05, 15 Mawrth 2022

Yn olaf, clywodd y pwyllgor y bydd cyllideb staff Llywodraeth Cymru yn cynyddu £20 miliwn ar sail reolaidd o eleni ymlaen. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol ac, o ganlyniad, mae'r pwyllgor yn gofyn am ragor o fanylion ynghylch sut mae'r arian hwnnw'n cael ei wario, ac a fydd unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud i fodel gweithredu Llywodraeth Cymru o ganlyniad iddo. 

Dirprwy Lywydd, rwy'n falch o fod wedi cael siarad yn y ddadl heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Fel y crybwyllwyd ar ddechrau'r cyfraniad hwn, rydym yn wynebu cyfnod economaidd cynyddol anodd. Felly, rydym yn annog y Gweinidog i weithredu ar ein hargymhellion ac i sicrhau bod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru. Diolch yn fawr.