Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 15 Mawrth 2022.
A gaf i ddiolch hefyd i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw ac i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am ei sylwadau ar y gyllideb? Bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal ar y cynnig sydd ger ein bron. Wrth gwrs, mae'n diwygio cyllideb 2021-22, yr ydym ni wedi nodi ein safbwynt arni o'r blaen.
Cafodd llawer o'r dyraniadau a nodir yn y gyllideb atodol hon eu gwneud yng nghyd-destun ein hymateb parhaus yn erbyn pandemig COVID-19 ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y dyraniadau sylweddol a wnaed gan Lywodraeth Cymru—rhyw £2.1 biliwn ychwanegol—o'i gymharu â'r gyllideb wreiddiol. Fodd bynnag, rwyf i’n gwneud y pwynt bod yr ymateb hwn, i raddau helaeth, o ganlyniad i'r adnoddau sylweddol sydd ar gael gan Lywodraeth y DU.
Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod yn rhaid i ni ofyn i ni'n hunain: beth mae dyraniadau Llywodraeth Cymru wedi ei gyflawni? Er enghraifft, mae dros £550 miliwn wedi ei ddyrannu i gefnogi adferiad y gwasanaeth iechyd, ond gyda channoedd o filoedd o bobl yn dal i aros am driniaeth a sefyllfaoedd gwarthus yn cael eu cofnodi am bobl yn aros mewn ambiwlansys am oriau lawer, fel y nodwyd yn gynharach heddiw gan Paul Davies, a'r sefyllfa ofnadwy o ran deintyddiaeth, fel y codwyd gan Alun Davies yn gynharach, mae angen mwy o fanylion yn wirioneddol am yr hyn y bydd y cyllid hwn yn ei gyflawni, gyda thargedau caled yn cael eu gosod i leihau amseroedd aros. Yn y cyfamser, mae dros £80 miliwn wedi ei ddyrannu i fynd i'r afael â phwysau gofal cymdeithasol, ond rydym yn gwybod bod y sector yn dal i'w chael yn anodd o dan bwysau'r galw, sy'n achosi tagfeydd yn y system iechyd ehangach, yn amlwg. Unwaith eto, Dirprwy Lywydd, rwy’n awyddus iawn i wthio Gweinidogion ar gyflawni; mae'n ddigon hawdd dyrannu symiau trawiadol i wasanaethau, ond mae angen iddo gyflawni ei amcanion.
Dirprwy Lywydd, mae rhai dyraniadau wedi eu nodi yn y gyllideb atodol yr hoffwn i holi'r Gweinidog yn fyr yn eu cylch. Mae gwladoli Trafnidiaeth Cymru yn parhau i sugno arian oddi wrth wasanaethau cyhoeddus eraill—mae £53 miliwn arall wedi ei ddyrannu yn y gyllideb hon, ar ben dros £70 miliwn a gyhoeddwyd yn y gyllideb atodol gyntaf. Pa mor hir y mae'r Gweinidog yn rhagweld y bydd y Llywodraeth yn cynnal Trafnidiaeth Cymru a phryd y bydd Gweinidogion yn cyhoeddi cynllun i roi Trafnidiaeth Cymru yn ôl ar sail gynaliadwy fel nad oes angen cymorthdaliadau cyhoeddus arno mwyach i'w gadw ar ei draed?
Fel y soniodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, mae cynnydd o £20 miliwn yng nghostau staffio Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys talu am 20 o uwch weision sifil newydd. Rwy’n pwysleisio dadl y Pwyllgor Cyllid bod y gost o gefnogi'r swyddi hyn yn sylweddol. Felly, a wnaiff y Gweinidog amlinellu pam roedd angen y swyddi hyn ac a fydd canlyniadau adolygiad yr Ysgrifennydd Parhaol newydd o fodel gweithredu Llywodraeth Cymru ac effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd cyffredinol ar gael i'r Senedd i graffu arnyn nhw?
Yn olaf, mae £1.1 miliwn wedi ei ddyrannu i waith paratoi ymchwiliad COVID-19. Ar gyfer beth yn union y mae'r arian hwn wedi ei ddefnyddio ac oni fyddai'n well gwario'r arian hwnnw ar ymchwiliad sy'n benodol i Gymru, fel y mae'r teuluoedd mewn profedigaeth ledled Cymru yn galw amdano? Diolch, Dirprwy Lywydd.