– Senedd Cymru am 4:25 pm ar 15 Mawrth 2022.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar ddiwygiad i setliad llywodraeth leol 2021-22, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.
Diolch. Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Senedd ei chymeradwyo welliant i setliad llywodraeth leol y flwyddyn gyfredol. Ar ôl ymgynghori â llywodraeth leol, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, rwy'n cynnig cynnydd pellach o £60 miliwn i gyllid refeniw llywodraeth leol drwy gynyddu'r grant cynnal refeniw, a ddarperir drwy setliad llywodraeth leol diwygiedig ar gyfer 2021-22. Mae'r adroddiad cyllid llywodraeth leol diwygiedig yn adlewyrchu cynnydd o £50 miliwn mewn cyllid, a gyhoeddwyd yn yr ail gyllideb atodol, yn ogystal â £10 miliwn arall yr wyf i wedi ei ddarparu drwy ail-flaenoriaethu cyllid Llywodraeth Cymru yn ofalus. Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn cyfateb i gynnydd o 1.3 y cant ar lefel Cymru o'i gymharu â'r hyn a gyhoeddwyd gan fy rhagflaenydd fis Mawrth diwethaf, gyda phob awdurdod yn ennill o leiaf £1.1 miliwn yn ychwanegol.
Gan nad yw'r cyllid hwn yn rheolaidd, ni fydd unrhyw addasiad i'r sylfaen ar gyfer cyfrifo setliad 2022-23 yng ngoleuni hynny. Bydd yr arian hwn yn helpu awdurdodau lleol i reoli eu cyllidebau'n fwy effeithiol dros y cyfnod 2021-25 yng nghyd-destun pwysau chwyddiant a gwasanaethau a diwedd y gronfa caledi llywodraeth leol. Bydd hefyd yn eu helpu i barhau i ddatgarboneiddio gwasanaethau ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur.
Er nad yw'r cyllid hwn wedi ei neilltuo, bwriedir galluogi llywodraeth leol hefyd i ymateb i'w huchelgeisiau i gynyddu gallu gwasanaethau cymorth cartref drwy ariannu gwersi gyrru a darparu mynediad i gerbydau trydan, ac mae hyn yn enghraifft o sut y mae awdurdodau'n gweithio i ddatgarboneiddio gwasanaethau ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur. Felly, rwy'n gofyn i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig hwn heddiw.
A gaf i ddiolch unwaith eto i'r Gweinidog am y datganiad hwn? A hoffwn i ddweud y bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig ar yr agenda. Rydw i'n croesawu'n gyffredinol y cyhoeddiad y bydd cynghorau'n cael £60 miliwn yn ychwanegol yn eu grant cynnal refeniw ar gyfer 2021-22. Fel y dywedodd y Gweinidog yn ei llythyr at arweinwyr cynghorau, mae cynghorau'n wynebu pwysau cyllidebol lluosog, er enghraifft, diwedd y gronfa caledi lleol, pwysau chwyddiant, a'r galw uchel parhaus ar wasanaethau cyhoeddus, wrth i ni ddod allan o'r pandemig gobeithio. Dylai'r arian hwn, felly, helpu i leddfu rhywfaint ar y baich y mae gwasanaethau lleol yn ei wynebu.
Fodd bynnag, Dirprwy Lywydd, hoffwn i ofyn i'r Gweinidog am eglurhad ynghylch rhai gwahaniaethau yn y ffigurau a ddarparwyd rhwng y setliad llywodraeth leol diwygiedig a'r ail gyllideb atodol yr ydym ni newydd glywed amdani. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r setliad llywodraeth leol diwygiedig yn amlinellu £60 miliwn ychwanegol i gynghorau, ac eto mae'r gyllideb atodol yn disgrifio'r dyraniad hwn fel £50 miliwn ychwanegol o gyllid refeniw ychwanegol. Gweinidog, a gaf i ofyn pam, o fy narlleniad i o leiaf, fod gwahaniaeth o £10 miliwn rhwng y ffigurau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru? Rwy'n siŵr bod yr ateb yn syml.
Rwy'n sylwi hefyd o'ch llythyr, ac fel yr ydych chi newydd ei grybwyll, er nad yw'r cyllid hwn wedi ei neilltuo, ac rwyf i'n croesawu hynny, awgrymir y gallai cynghorau ddymuno defnyddio'r refeniw ychwanegol i ariannu pethau fel gwersi gyrru ar gyfer gofal cartref neu gynyddu mynediad i gerbydau trydan fel y gall cynghorau barhau i weithio tuag at ddatgarboneiddio gwasanaethau. A gaf i ofyn pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda chynghorau am yr awgrymiadau hyn? Ydyn nhw'n bethau y mae awdurdodau lleol wedi tynnu sylw atyn nhw fel blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi, neu yr hyn y mae'r Llywodraeth yn credu y dylid gwario arian arno? Mewn geiriau eraill, a all y Gweinidog roi sicrwydd y bydd gan gynghorau hyblygrwydd llawn i wario'r arian ar eu blaenoriaethau eu hunain? Diolch, Dirprwy Lywydd.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn i Peter Fox am ei gyfraniad a hefyd am gadarnhau cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i'r cynnig hwn heddiw. Felly, rwy'n hapus i ymateb i'r cwestiynau penodol hynny. Felly, ydy, mae'r adroddiad cyllid llywodraeth leol diwygiedig yn adlewyrchu'r cynnydd o £50 miliwn mewn cyllid, ac roedd hynny, fel y dywedodd Peter Fox, wedi ei gyhoeddi wrth gyhoeddi'r ail gyllideb atodol. Ac mae'n £10 miliwn ychwanegol y gallaf i ddweud sydd ar gael heddiw, gan ystyried ble rydym ni ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ac edrych ar yr adnoddau sydd ar gael i ni. Roedd y £50 miliwn ar adeg gosod yr ail gyllideb atodol, ond rwy'n gallu darparu'r £10 miliwn ychwanegol yn awr, ac mae hynny, fel y dywedais i, yn adlewyrchu'r ffordd y mae'r gyllideb sydd gennym ni ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn cael ei rheoli.
O ran sut yr ydym ni wedi cyrraedd y ffigur hwn a sut yr ydym ni wedi cyrraedd yr hyn y gallai awdurdod lleol fod yn dymuno ei wario hyn arno, unwaith eto mae hynny wedi bod drwy drafodaeth gyda llywodraeth leol. Byddwch chi'n cofio'n ddiweddar i mi gyhoeddi £70 miliwn ychwanegol mewn cyfalaf; wel, digwyddodd hynny yn dilyn rhai sylwadau cryf yr oedd llywodraeth leol wedi eu cyflwyno i mi o ran atgyweirio ffyrdd yn lleol, er enghraifft. Felly, er mai mater i awdurdodau lleol yw penderfynu sut i wario'r arian hwnnw—mae ganddyn nhw hyblygrwydd llwyr—mae dealltwriaeth hefyd ei fod wedi ei seilio ar yr hyn y gwnaethon nhw ddweud wrthyf i y mae angen y cyllid arnyn nhw ar ei gyfer. Mae ganddyn nhw'r hyblygrwydd hwnnw, ond eto mae gennym ni ddealltwriaeth yn hynny o beth hefyd, ac mae'r un peth yn wir yma, oherwydd bod hon yn ffordd arall, rwy'n credu, lle gall awdurdodau lleol ddangos eu hymrwymiad clir iawn, ac rwy'n meddwl, cryf iawn i ddatgarboneiddio a hefyd eu hymrwymiad i ofal cymdeithasol a cheisio recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol.
Dyma rai enghreifftiau o'r ffyrdd y mae llywodraeth leol wedi cynnig syniadau ar gyfer ffyrdd y gallan nhw ddefnyddio'r cyllid ychwanegol hwn. Wrth gwrs, mae'n rhoi rhywfaint o hyblygrwydd i awdurdodau lleol yn y dyfodol hefyd, pe byddan nhw'n penderfynu gwario'r arian hwn mewn camau, oherwydd fel yr ydym ni wedi ei drafod o'r blaen, blynyddoedd 2 a 3 o'r adolygiad hwn o wariant sy'n anoddach i awdurdodau lleol. Bydd angen iddyn nhw ystyried hyn wrth iddyn nhw benderfynu sut i wario'r arian ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.