Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 16 Mawrth 2022.
Hoffwn gysylltu fy hun efo'r sylwadau gafodd eu gwneud gan Alun Davies a'r Gweinidog. Yn sicr, mae hyn yn ddewis gwleidyddol, a fedrwn ni ddim osgoi'r ffaith, ac mae'n rhaid i chi gymryd cyfrifoldeb os ydych chi'n gwneud penderfyniadau gwleidyddol sydd yn amharu ar yr argyfwng costau byw.
Fis diwethaf, trefnais uwchgynhadledd costau byw ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru yn Nhrefforest, gan ddod â sefydliadau trydydd sector a gwirfoddol ynghyd i drafod yr heriau rydym yn eu gweld yn ein cymunedau, a thrafod sut y gallwn sicrhau bod y gefnogaeth ar gael i'r rhai sydd yn cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw. Tra'n ddiolchgar am waith caled pawb fynychodd, yn cefnogi unigolion a theuluoedd, roedd pawb yn pryderu bod hwythau dan bwysau o ran medru ateb y galw. Mae o'n warthus bod ni'n gweld mwy o angen ar fanciau bwyd, a bod nhw'n cael eu gweld fel y norm o fewn cymdeithas yn lle bod ni'n uno i stopio'r angen iddyn nhw fodoli. Pa gefnogaeth, felly, sydd yn cael ei roi nid yn unig yn uniongyrchol i aelwydydd, ond hefyd i'r trydydd sector a'r sector gwirfoddol i sicrhau bod modd cydlynu'r gefnogaeth sydd ar gael, a sicrhau bod pawb sydd angen cymorth yn derbyn y cymorth sydd ar gael?