Mercher, 16 Mawrth 2022
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.
Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, hoffwn nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno trwy...
Yn gyntaf y prynhawn yma mae cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae cwestiwn 1 gan Mark Isherwood.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru? OQ57781
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fentrau Llywodraeth Cymru i gynorthwyo aelwydydd gyda'r cynnydd parhaus mewn costau byw? OQ57805
Galwaf nawr ar lefarwyr y pleidiau, a llefarydd y Ceidwadwyr, yn gyntaf. Mark Isherwood.
3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar blant? OQ57787
4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at system les i Gymru? OQ57799
5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael yn ddiweddar gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch sefydlu'r ganolfan breswyl gyntaf i fenywod yng Nghymru? OQ57779
6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gynigion Llywodraeth y DU i ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998? OQ57783
7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch mesurau i gefnogi myfyrwyr anabl i gael mynediad at addysg uwch? OQ57793
8. Pa bolisïau y mae Llywodraeth Cymru yn eu dilyn i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed drwy'r argyfwng costau byw? OQ57801
9. Pa fesurau diogelu sydd ar waith i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn myfyrwyr rhyngwladol wrth iddynt ymgeisio am swyddi yng Nghymru? OQ57798
Mae cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad nesaf. Cwestiwn 1, Rhys ab Owen.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y newidiadau arfaethedig i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 ar setliad datganoli Cymru? OQ57785
2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch unrhyw gymorth y gall ei roi i ymchwiliad y Llys Troseddol Rhyngwladol i droseddau rhyfel y tybir bod...
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
3. Pa sgyrsiau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw trigolion Cymru yn wynebu rhwystrau i gyfiawnder? OQ57789
4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a Chymdeithas y Cyfreithwyr ar y cynnig gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr i gau'r gronfa...
5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ai Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU sydd â'r pŵer i gyhoeddi canllawiau gweithio gartref...
6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ei phwerau mewn perthynas ag ehangu pwll glo Aberpergwm? OQ57782
Eitem 3 sydd nesaf—cwestiynau i Gomisiwn y Senedd, a chwestiwn 1 i'w ateb gan Joyce Watson. Peredur Owen Griffiths.
1. Pa gamau y mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i sicrhau bod y Senedd yn hygyrch i bobl ddall a phobl â golwg rhannol? OQ57803
2. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fioamrywiaeth ar ystad y Senedd? OQ57786
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mwynheais y cwestiwn hwnnw'n fawr.
4. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad ar sut mae'n annog cyfranogiad y cyhoedd ym mhwyllgorau'r Senedd? OQ57792
5. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o effaith y sancsiynau economaidd ar Rwsia ar gronfeydd pensiwn staff ac Aelodau? OQ57807
Nid oes unrhyw gwestiynau amserol wedi'u derbyn y prynhawn yma.
Eitem 5, datganiadau 90 eiliad. Dim ond un heddiw, a galwaf Siân Gwenllian.
Eitem 6 y prynhawn yma yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, cynllunio morol yng Nghymru. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig.
Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, y lluoedd arfog. Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar.
Symudaf yn awr i ddadl fer heddiw, a galwaf ar Gareth Davies i siarad am y pwnc y dewiswyd ganddo.
Pa gymorth sydd ar gael i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn Nwyfor Meirionnydd?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o faint o staff cyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cael eu cyflogi ar lai na'r cyflog byw go iawn?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia