Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 16 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr iawn, Jane Dodds. Wrth gwrs, bydd yr argyfwng costau byw yn arwain at drafferthion ariannol i lawer mwy o aelwydydd yng Nghymru, gan gynnwys y rheini mewn ardaloedd gwledig. Rydym wedi canolbwyntio ein cymorth, gyda'r Gweinidog cyllid, ar yr aelwydydd mwyaf agored i niwed ac rydym wedi cyhoeddi dadansoddiad sy'n dangos dosbarthiad ac effeithiau ein hymateb uniongyrchol, y byddwch yn ei groesawu, rwy'n siŵr, i weld lle'r ydym yn targedu hyn yn effeithiol.
Yn ogystal â’r taliad costau byw o £150 ar gyfer pob aelwyd mewn eiddo ym mandiau A i D y dreth gyngor, yn ogystal â'r taliad o £200, hoffwn ddweud, i'r ardaloedd gwledig, i gartrefi nad ydynt ar y grid, fod cyllid ar gyfer y gronfa cymorth dewisol yn hollbwysig. Cafodd ei gynyddu. Gwnaethom ei ddwyn ymlaen i gefnogi'r gwaith o gyflwyno cymorth dros y gaeaf i gleientiaid tanwydd nad ydynt ar y grid. Ac wrth gwrs, fe wyddom, mewn ardaloedd gwledig, yn eich ardaloedd chi, fel y dywedoch chi, fod un o bob tair aelwyd yn cael rhywfaint o'u cyflenwad ynni neu'r cyflenwad cyfan o ffynonellau nad ydynt ar y grid. Felly, gan ailgyflwyno hynny, cyflwynwyd y gyllideb derfynol, gyda chyllid pellach ar gael i sicrhau ein bod yn cyflawni hyn. Ac mae'n wir fod angen inni gyrraedd y rheini. Ac i roi rhai enghreifftiau i chi, fe wnaethom helpu 494 o ymgeiswyr yn sir Gaerfyrddin, Ceredigion, sir Benfro a Phowys o ganlyniad i'r gronfa cymorth dewisol bwrpasol honno. Felly, Cymru gyfan. Mae gan yr ardaloedd gwledig broblemau penodol o ran ffynonellau ynni a thanwydd nad ydynt ar y grid, ond rydym yn ymateb i hynny drwy'r gronfa cymorth dewisol a gadwyd ar agor gennym, ac rydym wedi cadw’r hyblygrwydd y galwyd amdano yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac mae hynny'n mynd i wneud gwahaniaeth.