Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 16 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 1:55, 16 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae 3 miliwn o ffoaduriaid bellach wedi gadael Wcráin. Mae’r DU yn ei gwneud yn ofynnol i’r ffoaduriaid hynny wneud cais am fisâu, ac mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod dileu rheolau fisâu, er bod hyn yn gwrth-ddweud ein rhwymedigaethau rhyngwladol o dan gonfensiwn ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig 1951, sy’n nodi na ddylai unrhyw un sy'n ffoi rhag rhyfel, o ble bynnag y deuant, orfod gwneud cais am fisa cyn ceisio diogelwch.

Mae grŵp o ffoaduriaid o Abertawe, yr ail ddinas noddfa erioed yn y DU, wedi ysgrifennu llythyr agored at y Llywodraeth, yn galw am fwy o gymorth i bawb mewn amgylchiadau eithafol ledled y byd i gael ffordd ddiogel o gyrraedd y DU. O ystyried y safbwynt ar fisâu a nodwyd gan y Prif Weinidog yr wythnos hon, yn groes i safbwynt eich cyd-bleidwyr Llafur yn San Steffan, gan gynnwys ASau Llafur hŷn o Gymru, a wnewch chi ddatgan heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso am hepgor gofynion fisâu yn llwyr ar gyfer pob ffoadur, yn unol â’n nod i Gymru ddod yn uwch-noddwr i’r rheini sy’n ffoi o Wcráin ac yn genedl noddfa go iawn?