Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 16 Mawrth 2022.
Diolch, Mark Isherwood. Wel, rwy'n fwy na pharod i gyfarfod ag Hourglass. Ond hefyd, rwyf wedi cyfarfod â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru mewn perthynas â'r mater hwn, sydd, ei hun a chyda’i thîm, wedi gwneud ymchwil ac wedi ymgysylltu â phobl hŷn i nodi achosion o gam-drin pobl oedrannus. Mae hyn yn hanfodol i gam nesaf ein strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Rydym wedi ymgynghori ar y mater, rydym yn datblygu'r strategaeth genedlaethol bum mlynedd nesaf, mae gennym sefydliadau partner allweddol, a byddaf yn ymateb i hynny cyn bo hir. Ond mae’n wir fod yn rhaid inni edrych ar hyn yn enwedig mewn perthynas â’r pandemig a’r effaith a gafodd y cyfyngiadau symud a’r pandemig ar bobl hŷn hefyd. Felly, rwy’n ddiolchgar ichi am dynnu fy sylw at hyn y prynhawn yma.