Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 16 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr iawn, Mike Hedges. Fis Hydref diwethaf, gwnaeth penderfyniad Llywodraeth y DU i ddod â'r codiad o £20 yr wythnos i'r credyd cynhwysol i ben orfodi miloedd o aelwydydd ledled Cymru i fywyd mewn tlodi. Hefyd, gyda rhagolygon y bydd chwyddiant yn cyrraedd 7 y cant, cafodd y cynnig i gymeradwyo’r cynnydd o 3.1 y cant yn unig mewn taliadau budd-daliadau lles o fis Ebrill ymlaen ei basio yn Nhŷ’r Cyffredin, a chyda chefnogaeth lawn yr ASau Ceidwadol mae'n rhaid imi ddweud. Ond mae'r hyn a ddywedwch yn wir ynglŷn â sicrhau hefyd ein bod yn gweithio i wella lefelau cyflog ac yn mynd i'r afael â chontractau ecsbloetiol. Mae'n hanfodol ein bod yn arwain drwy esiampl fel cyflogwr cyflog byw gwirioneddol achrededig, ac yn sicrhau hefyd, drwy ein gwaith teg a'n partneriaeth gymdeithasol, ein bod yn mynd i'r afael â'r contractau ecsbloetiol hynny hefyd.